Rydw i wrth fy modd eich bod chi wedi cymryd yr amser i ddysgu rhagor am ein carfan ragorol.
Mae eich diddordeb yn cyd-fynd ag amseroedd cyffrous i ni wrth i ni adeiladu ar ein cynnydd a pharhau â'n taith tuag at welliant; gan gael ein hysgogi gan ein hymrwymiad ar draws y gwasanaeth i wella deilliannau i blant a theuluoedd. Mae profiadau plant a theuluoedd o’n gwasanaethau, a’r canlyniadau rydyn ni’n eu cyflawni gyda’n gilydd yn wirioneddol bwysig i ni.
Mae carfan RhCT bob amser yn gwneud argraff arnaf i gyda'u tosturi tuag at deuluoedd, eu gwydnwch, sgiliau a'u creadigrwydd.
Yn y tudalennau gwe yma rydyn ni wedi cynnwys yr wybodaeth y gobeithiwn y bydd yn eich helpu chi i gael darlun ohonon ni, ein gweledigaeth, ein gwerthoedd, a'r ffordd rydyn ni'n gweithio. Yn ystod y flwyddyn i ddod byddwn ni'n cychwyn ar ymdrech sylweddol wrth i ni gyflwyno model RhCT o ymarfer gwaith cymdeithasol wedi’i lywio gan gronfa dystiolaeth o ‘beth sy’n gweithio’ mewn ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau. Bydd hyn yn gosod eich arbenigedd, a phwysigrwydd arfer gwaith cymdeithasol da, wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydyn ni'n gwybod ac yn deall bod angen cymorth ar bob un o’n staff. Yn RhCT byddwch chi'n gallu cael cymorth un i un proffesiynol ac ystod eang o hyfforddiant a chyngor proffesiynol arbenigol. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cyflwyno mannau myfyrio dan arweiniad Seicoleg ac rydyn ni hefyd yn cyflwyno Rowndiau Schwartz ar draws y gwasanaeth.
Mae RhCT yn parhau i ddatblygu gwasanaethau cymorth i deuluoedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n cyfateb i anghenion ein poblogaeth ac yn ogystal â’ch sgiliau gwaith cymdeithasol, mae modd i'r teuluoedd y byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr â nhw yn RhCT gael mynediad at:
- Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth – gwasanaeth cymorth cynnar a cham-i-lawr mynediad agored a arweinir gan weithwyr cymdeithasol sy’n cynnwys cynnig therapiwtig.
- Eiriolaeth ac Eiriolaeth Rhieni
- Cyfarfodydd Grŵp Teulu.
- Carfan Teuluoedd Therapiwtig.
- Meisgyn (ymyriadau ar ffiniau gofal yn seiliedig ar dystiolaeth).
Mae gan adran Gwasanaethau i Blant RhCT berthynas dda gyda sefydliadau partner, ac rydyn ni'n gweithio'n dda gyda'n hawdurdodau bwrdd partneriaeth rhanbarthol hefyd. Rydym yn awdurdod sy’n cyflawni'n dda sy’n defnyddio data helaeth i roi rhybudd cynnar o newidiadau mewn angen neu alw, ac i roi sicrwydd ynghylch atal oedi i blant a theuluoedd. Rydyn ni'n gweithredu dull dysgu sy'n seiliedig ar genhadaeth i ddeall y materion systemig pan aiff pethau o chwith.
Gofal maeth yw ein prif fodel gofal ar gyfer plant sydd angen derbyn gofal. Yn RhCT, mae 44% o blant sy’n derbyn gofal gyda pherthnasau a bydd cam nesaf ein strategaeth newydd ar gyfer derbyn gofal yn golygu ein bod ni'n cynyddu’r cymorth ar gyfer gwarcheidwaid arbennig a chynhalwyr sy’n berthnasau hefyd. Mae'r Cyngor yn darparu ei ofal preswyl ei hun mewn 5 cartref gydag ymarfer sydd wedi'i wreiddio yn y model adferiad trawma ac mae'n llwyddo i gael deilliannau sy'n arwain y sector i bobl ifainc.
Rydw i'n gobeithio y byddwch chi'n dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi ar y tudalennau gwe yma. Beth am gysylltu i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn rhan o garfan ragorol?
Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf
Ein Cynnig i Chi
Bwriwch olwg ar fanylion ein cyflogau, cyfleoedd dysgu a datblygu ynghyd â manteision gweithio i RCT.
Ein Cynnig i Chi
Gwasanaethau i Blant RhCT
Bwriwch olwg ar ein gwerthoedd a'n pwrpas ynghyd â manylion am y carfanau sy'n rhan o'n gwasanaeth.
Amdanom ni
Astudiaethau Achos Staff
Darllen yr hyn sydd gan ein staff i'w ddweud am weithio i'r gwasanaeth hwn.
Astudiaethau Achos Staff