Croeso gan y Cyfarwyddwr

Rydw i wrth fy modd eich bod chi wedi cymryd yr amser i ddysgu rhagor am ein carfan ragorol.

Mae eich diddordeb yn cyd-fynd ag amseroedd cyffrous i ni wrth i ni adeiladu ar ein cynnydd a pharhau â'n taith tuag at welliant; gan gael ein hysgogi gan ein hymrwymiad ar draws y gwasanaeth i wella deilliannau i blant a theuluoedd. Mae profiadau plant a theuluoedd o’n gwasanaethau, a’r canlyniadau rydyn ni’n eu cyflawni gyda’n gilydd yn wirioneddol bwysig i ni.

Mae carfan RhCT bob amser yn gwneud argraff arnaf i gyda'u tosturi tuag at deuluoedd, eu gwydnwch, sgiliau a'u creadigrwydd.

Billingual Identifier v2

Yn y tudalennau gwe yma rydyn ni wedi cynnwys yr wybodaeth y gobeithiwn y bydd yn eich helpu chi i gael darlun ohonon ni, ein gweledigaeth, ein gwerthoedd, a'r ffordd rydyn ni'n gweithio. Yn ystod y flwyddyn i ddod byddwn ni'n cychwyn ar ymdrech sylweddol wrth i ni gyflwyno model RhCT o ymarfer gwaith cymdeithasol wedi’i lywio gan gronfa dystiolaeth o ‘beth sy’n gweithio’ mewn ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau. Bydd hyn yn gosod eich arbenigedd, a phwysigrwydd arfer gwaith cymdeithasol da, wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydyn ni'n gwybod ac yn deall bod angen cymorth ar bob un o’n staff.  Yn RhCT byddwch chi'n gallu cael cymorth un i un proffesiynol ac ystod eang o hyfforddiant a chyngor proffesiynol arbenigol. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cyflwyno mannau myfyrio dan arweiniad Seicoleg ac rydyn ni hefyd yn cyflwyno Rowndiau Schwartz ar draws y gwasanaeth.

Mae RhCT yn parhau i ddatblygu gwasanaethau cymorth i deuluoedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n cyfateb i anghenion ein poblogaeth ac yn ogystal â’ch sgiliau gwaith cymdeithasol, mae modd i'r teuluoedd y byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr â nhw yn RhCT gael mynediad at:

  • Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth – gwasanaeth cymorth cynnar a cham-i-lawr mynediad agored a arweinir gan weithwyr cymdeithasol sy’n cynnwys cynnig therapiwtig.
  • Eiriolaeth ac Eiriolaeth Rhieni
  • Cyfarfodydd Grŵp Teulu.
  • Carfan Teuluoedd Therapiwtig.
  • Meisgyn (ymyriadau ar ffiniau gofal yn seiliedig ar dystiolaeth).

Mae gan adran Gwasanaethau i Blant RhCT berthynas dda gyda sefydliadau partner, ac rydyn ni'n gweithio'n dda gyda'n hawdurdodau bwrdd partneriaeth rhanbarthol hefyd.  Rydym yn awdurdod sy’n cyflawni'n dda sy’n defnyddio data helaeth i roi rhybudd cynnar o newidiadau mewn angen neu alw, ac i roi sicrwydd ynghylch atal oedi i blant a theuluoedd.  Rydyn ni'n gweithredu dull dysgu sy'n seiliedig ar genhadaeth i ddeall y materion systemig pan aiff pethau o chwith.  

Gofal maeth yw ein prif fodel gofal ar gyfer plant sydd angen derbyn gofal.  Yn RhCT, mae 44% o blant sy’n derbyn gofal gyda pherthnasau a bydd cam nesaf ein strategaeth newydd ar gyfer derbyn gofal yn golygu ein bod ni'n cynyddu’r cymorth ar gyfer gwarcheidwaid arbennig a chynhalwyr sy’n berthnasau hefyd. Mae'r Cyngor yn darparu ei ofal preswyl ei hun mewn 5 cartref gydag ymarfer sydd wedi'i wreiddio yn y model adferiad trawma ac mae'n llwyddo i gael deilliannau sy'n arwain y sector i bobl ifainc.

Rydw i'n gobeithio y byddwch chi'n dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi ar y tudalennau gwe yma. Beth am gysylltu i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn rhan o garfan ragorol?

Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf

Ein Cynnig i Chi

Bwriwch olwg ar fanylion ein cyflogau, cyfleoedd dysgu a datblygu ynghyd â manteision gweithio i RCT.

Ein Cynnig i Chi

Gwasanaethau i Blant RhCT

Bwriwch olwg ar ein gwerthoedd a'n pwrpas ynghyd â manylion am y carfanau sy'n rhan o'n gwasanaeth.

Amdanom ni

Astudiaethau Achos Staff 

Darllen yr hyn sydd gan ein staff i'w ddweud am weithio i'r gwasanaeth hwn.

Astudiaethau Achos Staff

 

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol.

Cysylltwch â ni

Tudalennau yn yr Adran Hon

Bwriwch olwg ar Swyddi Gwag Gwasanaethau i Blant

Swyddi Gwag