Mae Twf Swyddi Cymru yn cynnig cyfleoedd gwaith o ansawdd sy’n para am o leiaf 6 mis. Byddwch chi’n rhan o gwmni ac wedi cytuno i delerau ac amodau'r cyflogwr sydd gyda chi, a byddwch chi'n cael eich talu gyda phob swydd trwy Dwf Swyddi Cymru.
Pwy sy'n cael gwneud cais?
I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon rhaid i chi sicrhau:
- eich bod chi rhwng 16-24 oed ac yn ddi-waith (bydd hawl gyda chi gyflwyno cais os ydych chi’n gweithio o dan 16 awr yr wythnos hefyd)
- eich bod chi heb gael eich atgyfeirio at y Rhaglen Waith neu’r Rhaglen Dewis Gwaith, neu'n cymryd rhan yn un o'r rhain (Gwiriwch hyn gyda’ch cynghorwr Canolfan Byd Gwaith)
- nad ydych chi mewn addysg amser llawn neu ar fin gorffen rhaglen hyfforddiant
- eich bod chi'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd
Felly, os ydych chi newydd raddio neu ar fin gorffen cwrs neu raglen hyfforddiant a bod y sgiliau gyda chi yn barod i ddechrau gweithio, efallai mai hwn yw’r cam nesaf i chi.
Fydda i’n derbyn cymorth?
Bwriad Twf Swyddi Cymru yw rhoi cyfle cyfartal i bob person ifanc yng Nghymru sydd â’r doniau a’r sgiliau i lwyddo ym myd gwaith. Felly, os oes anabledd gyda chi neu rydych chi’n wynebu rhwystrau penodol, bydd cymorth ychwanegol yn cael ei roi i chi. Bydd Twf Swyddi Cymru yn cefnogi cyfleoedd gwaith yn y gymuned. Mae’r rhain yn cael eu datblygu er mwyn eich helpu chi, os oes angen ychydig o gymorth ychwanegol yn y gweithle arnoch chi, ac os ydych chi’n dechrau gweithio am y tro cyntaf.
Os oes angen mwy o hyder, hyfforddiant neu gymorth arnoch chi, efallai mai dyma’r dewis i chi. Bydd Gyrfa Cymru yn helpu pob person ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i feithrin y medrau a'r gallu sydd gyda fe, a sut y gall y rhain ei helpu i gael y swydd mae e ei heisiau.
Swyddi gwag
Does gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ddim cyfleoedd gwaith trwy Dwf Swyddi Cymru ar hyn o bryd.
Cyflwyno Cais
Er mwyn cyflwyno cais am unrhyw un o’r swyddi uchod, ewch i wefan Gyrfa Cymru ble bydd modd i chi weld yr holl swyddi gwag a chyflwyno cais am y rhai mae diddordeb gyda chi ynddyn nhw.
Bydd angen i chi gofrestru ar y safle trwy greu cyfrif. Os oes gyda chi enw defnyddiwr a chyfrinair Gyrfa Cymru, 'mewngofnodwch' ar frig y sgrin.