Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn deall pwysigrwydd cael polisi ysgrifenedig clir ar gyflogau gweithwyr. Mae'r Datganiad Polisi Cyflogau yn darparu fframwaith i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu’n deg ac yn wrthrychol heb wahaniaethu. Mae gan y Cyngor ofyniad statudol o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i baratoi Datganiad Polisi Cyflogau bob blwyddyn
Mae canolbwynt y ddeddfwriaeth yn ymwneud â thryloywder cyflogau Prif Swyddogion a sut mae eu cyflogau’n cymharu â gweithwyr ar gyflog is yn y Cyngor. Serch hynny, er budd tryloywder ac atebolrwydd, mae Datganiad Polisi Cyflogau’r Cyngor yn cwmpasu'r holl grwpiau gweithwyr, ac eithrio athrawon gan mai Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer staff addysgu ac felly dydy hi ddim o dan reolaeth awdurdodau lleol. Mae'r Datganiad Polisi Cyflogau hefyd yn eithrio Aelodau'r Cyngor gan nad ydyn nhw'n weithwyr a’u bod nhw’n cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth ar wahân trwy Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Wrth bennu cyflog a chydnabyddiaeth ar gyfer ei weithwyr, bydd y Cyngor yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol o ran cyflogaeth.
Darllenwch y datganiad llawn ar gyfer 2024/25