Dydd Mercher, 6ed Mawrth 2019 o 10yb – 6yp Canolfan Hamdden Sobell , Aberdâr, CF44 7RP
Beth yw'r orsaf drên agosaf i Ganolfan Hamdden Sobell?
Dim ond 5 munud o gerdded i ffwrdd yw gorsaf drenau Aberdâr. I gael gwybod amseroedd trenau, ewch i https://tfwrail.wales
Beth yw'r orsaf fysus agosaf i Ganolfan Hamdden Sobell?
Mae nifer o orsafoedd bys o fewn daith gerdded fer o'r ganolfan hamdden. I gael gwybod am amseroedd bysiau, ewch i https://www.stagecoachbus.com/
Oes lleoedd parcio ar y safle ar gael?
Oes, bydd parcio am ddim ar y safle yn y ganolfan hamdden.
Oes angen i mi ddod â CV gyda fi ar y diwrnod?
NId yw CV yn orfodol, ond mae croeso i chi ddod â rhai ar hyd
A fydd unrhyw gymorth i lenwi ffurflenni cais?
Bydd cymorth ar gael ar gyfer chwilio am swyddi, yn ogystal â chanolfan ar wahân i gefnogi llenwi ffurflenni cais, a phob ymholiad arall.
A oes terfyn oedran i'r digwyddiad?
Na, mae croeso i bob oedran fod yn bresennol. Mae'r digwyddiad yn agored i ddisgyblion ysgol, yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd.
Pa fath o swyddi fydd ar gael?
Bydd swyddi llawn amser a rhan amser ar gael, yn ogystal â phrentisiaethau a rhaglenni graddedig sydd ar gael.
A allwch roi rhestr fer o'r cyflogwyr a fydd yn bresennol?
Trafnidiaeth i Gymru, HMRC, Dwr Cymru, Capgemini, GIG, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Stagecoach, Morgan Sindall, Yr Awyrlu Brenhinola llawer mwy.
A fydd gan bob un o'r cyflogwyr swyddi gwag?
Bydd, bydd gan bob cyflogwr swyddi gwag ar y diwrnod.