Skip to main content

Gwefru Cerbydau Trydan

Gyda datganiad ‘Argyfwng Hinsawdd’ gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn glir bod rhaid iddo chwarae ei ran wrth gymryd camau brys i liniaru'r risgiau sydd ynghlwm â'r Newid yn yr Hinsawdd.

Mae'r Cyngor wedi cydnabod y newidiadau sylfaenol sydd eu hangen i'r ffordd rydyn ni i gyd yn byw ein bywydau. O'r herwydd, mae wedi ymrwymo i ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae'r gwaith parhaus i ddatblygu rhwydwaith gwefru Cerbydau Trydan ledled Rhondda Cynon Taf i hwyluso'r cynnydd mewn perchnogaeth cerbydau trydan yn un o'r newidiadau niferus y mae'r Cyngor wedi ymrwymo iddyn nhw.

Mae gan y Cyngor ran ddylanwadol i'w chwarae o ran hwyluso'r cynnydd mewn perchnogaeth cerbydau trydan, gan gynnwys creu amgylchedd polisi cefnogol, trwy annog gosod cyfleusterau gwefru newydd ar gyfer cerbydau trydan, a hyrwyddo eu buddion i gynulleidfa ehangach.

Yn gynnar yn 2022, cyhoeddon ni ein Strategaeth Wefru Cerbydau Trydan, sy'n nodi ein 10 Uchelgais. Nod y rhain yw cydlynu dull gweithredu ledled y Fwrdeistref Sirol i hyrwyddo ac annog datblygiad rhwydwaith wefru cerbydau trydan cadarn yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.

Yn 2023, cyhoeddon ni ein Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan sy'n darparu canllawiau a chyngor ar arferion gorau i ddatblygu rhwydwaith wefru cerbydau trydan cynhwysfawr ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau gwefru mewn ysgolion, mannau parcio i ymwelwyr a chwsmeriaid, yn y gweithle, mannau cyhoeddus a mannau parcio sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor.

Mae’r Cynllun yn cyd-fynd â Chynllun Gweithredu sy’n gysylltiedig â Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor. Mae'r Cynllun Gweithredu yn argymell y camau tymor byr, tymor canolig a pharhaus sydd eu hangen i gynorthwyo’r cynnydd a llywio’r ffordd ymlaen wrth gyflawni’r 10 Uchelgais dros y blynyddoedd i ddod.

Darparu pwyntiau gwefru ar y stryd i breswylwyr

Ar hyn o bryd, does dim modd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gefnogi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan preifat ar y briffordd gyhoeddus, na gerllaw na throstyn nhw. Er budd diogelwch ar y briffordd ac mewn perthynas â chynnal a chadw yn y dyfodol, does dim modd i'r Cyngor ganiatáu llusgo ceblau, hyd yn oed gyda throshaen neu grid cilfachog, ar draws priffordd gyhoeddus neu lwybr troed, na sianelu ceblau o dan y llwybr troed. Mae hyn oherwydd materion atebolrwydd cyhoeddus, gan gynnwys y risg o ran baglu a materion diogelwch trydanol mwy cymhleth ar y pwynt defnydd.

Mae’r Cyngor yn gweithio i osod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan mewn nifer o fannau parcio cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn agos at ardaloedd preswyl.

Darpariaeth Mannau Gwefru Cyhoeddus

Drwy gydweithio ag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid i osod pwyntiau gwefru cyflym 7kw i 22kw at ddefnydd cyhoeddus mewn 31 o feysydd parcio ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhaglen yn rhan o gynllun ehangach sy’n cael ei gyflwyno ar draws 10 awdurdod lleol ardal Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Y gobaith yw y bydd y rhaglen yn parhau i ehangu dros y blynyddoedd nesaf.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith gosod, lleoliadau'r safleoedd wedi'u cadarnhau a sawl man gwefru fydd yn cael eu gosod, ewch i: Tudalen ymgyrchoedd gwefru cerbydau trydan.

Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin sy'n ymwneud â gweithredu pwyntiau gwefru cerbydau trydan arfaethedig mewn meysydd parcio ewch i: Connected Kerb - Frequently Asked Questions

Darllenwch y dogfennau canlynol i gael rhagor o wybodaeth am Wefru Cerbydau Trydan yn RhCT a Chymru: 

Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan.

Cysylltwch drwy e-bostio: GwefruCerbydauTrydan@rctcbc.gov.u