Skip to main content

Cilfachau parcio ar gyfer pobl sydd ag anabledd

Mae mannau parcio unigol ar gyfer pobl anabl yn fannau parcio ar ymyl y ffordd ac maen nhw wedi'u nodi â llinellau gwyn mewn siâp ‘blwch’ ynghyd ag arwydd. Nod y man parcio yw helpu pobl â nam symudedd sy'n methu â cherdded yn bell ac sy angen cymorth i barcio'n agos at eu cartrefi.

Adolygiad mewn perthynas â Chilfachau Parcio ar gyfer Pobl Anabl

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi comisiynu Practice Solutions i gynnal adolygiad mewn perthynas â’r Cynllun Cilfachau Parcio ar gyfer Pobl Anabl (DPPB). Diben yr adolygiad yw sicrhau bod y cynllun yn parhau i ddiwallu anghenion y rhai sy'n ei ddefnyddio, gan gydnabod yr heriau parhaus sy’n deillio o’r cynnydd yn y galw a'r pwysau o ran y gyllideb.

Yn rhan o'r adolygiad yma, rydyn ni’n awyddus i glywed gennych chi. Rydyn ni’n awyddus i glywed am eich profiadau chi, a beth allai fod yn well neu'n wahanol.

DWEUD EICH DWEUD

Bydd eich ymateb i'r arolwg yn llywio'r adolygiad, bydden ni’n ddiolchgar pe byddai modd i chi roi o’ch amser i’w gwblhau. Bydd yr arolwg yn cau ar 20 Rhagfyr 2024.

Os byddwch chi'n cael trafferth wrth gwblhau arolwg ar-lein, ffoniwch 01443 425 765 fel bod modd inni drefnu i rywun ei gwblhau gyda chi dros y ffôn.

Cymhwysedd i gael Man Parcio ar gyfer Pobl Anabl

Nod y Cynllun yw helpu gyrwyr anabl, sydd â nam symudedd difrifol, ac sy’n meddu ar Fathodyn Glas ac sy’n ei chael hi’n anodd parcio y tu allan i’w cartrefi oherwydd bod cerbydau eraill wedi'u parcio yno (a does dim cyfleusterau parcio addas oddi ar y ffordd ar hyn o bryd neu does dim modd eu creu nhw).   

I fod yn gymwys, rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r meini prawf canlynol: 

  • RHAID i'r gyrrwr a'r ymgeisydd (os ydyn nhw'n bobl wahanol) fyw yn yr un cyfeiriad, a rhaid bod y cerbyd yn cael ei gadw yn y cyfeiriad yma ar sail barhaol. RHAID bod gan yr ymgeisydd Fathodyn Glas dilys (ac eithrio Bathodynnau Glas Dros Dro - caiff y rhain eu cyhoeddi i ymgeiswyr sydd â namau dros dro am gyfnod o 12 mis).
  • Mae'n rhaid i'r ymgeisydd feddu ar fathodyn glas cyfredol a dilys (Nid yw deiliaid bathodyn glas dros dro yn gymwys i wneud cais).
  • Bydd man parcio dim ond yn cael ei osod tu allan i'r eiddo dan sylw'n uniongyrchol. Fydd cais ddim yn cael ei gymeradwyo os oes gwaharddiadau traffig, ardaloedd palmentog neu rwystrau eraill yn uniongyrchol y tu allan i'r cartref (cyffordd, er enghraifft).
  • RHAID i'ch eiddo BEIDIO bod â pharcio hygyrch sydd oddi ar yr heol (e.e. llawr caled, dreif neu garej). 

Does dim modd gwneud cais ar ran ymwelwyr, does dim ots beth yw eu sefyllfa.  Mewn rhai amgylchiadau arbennig, efallai bydd teithwyr anabl yn gymwys hefyd.

Os oes palmant isel tu allan i gartref yr ymgeisydd, mae modd iddyn nhw wneud cais yn ôl y Cynllun er hynny. Ond, os ydy man parcio yn cael ei ganiatáu, bydd raid cael gwared â’r palmant isel oherwydd nad yw’n bosibl cael y ddau ar yr un eiddo.

Y Broses Asesu

Ar ôl i'r cynllun gau, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad lle byddwn yn cwblhau asesiad.

Yn dilyn asesiad, bydd panel o swyddogion perthnasol yn penderfynu p’un ai i gymeradwyo’r man parcio ai peidio. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am y penderfyniad yn ysgrifenedig.  Mae’r broses asesu yn debygol o gymryd rhai misoedd i’w chwblhau. 

Cyflwyno Cais am Fan Parcio

Noder bod y ffurflen gais yma ar gau

Beth os nad yw'r cais yn llwyddiannus?

Os fydd eich cais ddim yn llwyddiannus, does dim hawl i'w apelio.  Byddwn ni'n anfon eich asesiad er mwyn i chi ei ddarllen a bydd gennych chi gyfle i ychwanegu unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych chi o'r farn oedd yn berthnasol adeg yr asesiad. Byddwn ni dim ond yn ystyried gwybodaeth sy'n berthnasol adeg yr asesiad. Felly mae'n bwysig eich bod chi'n darllen yr asesiad yn ofalus a nodi popeth y mae angen i ni wybod am eich amgylchiadau ar yr adeg hynny. Efallai bod eich asesiad yn dangos eich bod chi'n gymwys i gael Man Parcio, ond ei bod hi'n dechnegol amhosibl i osod un lle rydych chi'n byw. Byddwn ni'n nodi hyn yn ein hymateb er mwyn i chi wybod fydd dim modd i chi gael Man Parcio ar bwys eich eiddo, oni bai fod yr amgylchedd yn newid.