Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Teras Arfryn

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Teras Arfryn yw datblygu a chyflawni rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i leihau peryglon llifogydd yng nghymuned Tylorstown yng Nghwm Rhondda. Mae'r dudalen yma'n darparu manylion am y gwaith arfaethedig a'u harwyddocâd i gymuned Tylorstown.

Crynodeb o'r Cynllun

Ardal Risk Llifogydd Srategol

Rhondda Fach Uchaf

Lleoliad

Teras Arfryn, Tylorstown

Eiddo sy'n elwa

Oddeutu 68 eiddo preswyl a 6 busnes 

Math o Gynllun

Cynllun Lliniaru Llifogydd Cymhleth

Statws

Dyfarnwyd cyllid Achos Busnes Llawn (FBC) a Dylunio Manwl ym mis Awst 2024.

Ffynhonnell Ariannu

Grant Cyfalaf Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

 

Cefndir y Cynllun

Mae cymuned Tylorstown wedi'i osod yn safle 83 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd dŵr wyneb a chwrs dŵr cyffredin ar Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR), a ddatblygwyd i ddarparu dull gwrthrychol o nodi risg a blaenoriaethu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ar lefel gymunedol Cymru gyfan.

Mae ardal Teras Arfryn, Tylorstown wedi wynebu sawl digwyddiad llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phrif ffynhonnell perygl llifogydd yn yr ardal yn cael ei hystyried fel dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin.

Cafodd llifogydd diweddar yn Tylorstown ei achosi gan law trwm, arweiniodd hyn at ddŵr ffo sylweddol dros y tir o ganlyniad i ddŵr yn llifo o’r llethrau serth uwchben Stryd y Parc ac yn mynd i mewn i’r system ddraenio bresennol. Cafodd y system yma ei llethu gan ddŵr a malurion gan arwain at orlifo, gan effeithio ar nifer o eiddo a ffyrdd lle mae'n llifo.  

Achosodd y digwyddiadau diweddaraf, a ddigwyddodd ym mis Mai 2021 a mis Ionawr 2023, lifogydd mewnol mewn 22 eiddo preswyl. Disgwylir i newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder a dwyster stormydd, gan arwain at berygl llifogydd o'r fath yn yr ardal. 

Ers y digwyddiadau yma, mae'r Cyngor wedi cynnal gwelliannau draenio ar raddfa fach yn yr ardal sy'n cynnwys gwella sianel agored Stryd y Parc a rhwydwaith draenio priffyrdd â phibellau gyda'r nod o wella rheolaeth gwaddod o'r dalgylch uchaf a gwella capasiti'r gilfach ar hyd Stryd y Parc. Cafodd argaeau ymyl palmant concrid eu gosod ar hyd y sianel agored a chafodd gratiau rhigolau capasiti uchel ychwanegol eu gosod mewn mannau isel ar hyd Stryd y Parc. Fodd bynnag, ystyrir yr ymyriadau hyn ar raddfa fach yn atebion tymor byr tra bod rhaglen ehangach y Cynllun Lliniaru Llifogydd yn mynd yn ei blaen.

 

Amcanion y Cynllun Arfaethedig

  • Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon gan lifogydd dwfn a chyflym.
  • Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
  • Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
  • Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd - hyrwyddol cynaliadwyedd a lles
  • Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd
  • Gwella bioamrywiaeth lleol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau.
  • Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel
  • Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd.
  • Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol.

 

Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig

Bwriad y prosiect yma yw bod yn ddull seiliedig ar ddalgylch i reoli risg llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin i gymuned Tylorstown, a’i nod pennaf yw bod o fudd i breswylwyr Teras Arfryn, Tylorstown yn ogystal â lleihau’r perygl o lifogydd i drigolion ar Deras Gwernllwyn hefyd.

Bydd y cynllun lliniaru llifogydd yn targedu’r dalgylch uchaf, seilwaith cyrsiau dŵr cyffredin (sianel agored a rhwydweithiau cwlfer) a llwybrau llifogydd dros y tir yn yr ardal i ddarparu rhagor o gydnerthedd llifogydd trwy leihau’r risg tymor byr, canolig a hir o rwystr a gorlwytho hydrolig i'r rhwydwaith presennol. Y nod yw darparu safon amddiffyn newid yn yr hinsawdd 1 mewn 100 mlynedd a mwy i gymuned Teras Arfryn, a fydd hefyd yn ategu'r gwaith datblygedig sydd wedi'u cwblhau hyd yma.

Mae manteision ehangach yn cynnwys cynnal llwybr trafnidiaeth sylweddol y gymuned, yn benodol Stryd y Parc a'r A4233 Heol y Dwyrain, sy'n hwyluso'r brif briffordd sy'n cysylltu cymunedau Glynrhedynog/Maerdy â Tylorstown a rhan isaf Cwm Rhondda Fach.

Hyd yn hyn, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ar y cyd â’r ymgynghorwyr penodedig JBA Consulting, wedi paratoi Achos Cyfiawnhad Busnes (BJC), yn unol â Chanllawiau Achos Busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys sgrinio a dadansoddi helaeth o opsiynau amrywiol i fynd i’r afael â’r perygl o lifogydd yn Tylorstown, gan arwain at nodi opsiwn a ffefrir ar gyfer datblygiad pellach.

Mae'r opsiwn a ffefrir yn cynnwys cymysgedd o ymyriadau ar ochr y bryn a sianel yn ogystal ag uwchraddio cynhwysedd draenio priffyrdd i wella'r broses o gludo dŵr wyneb i'r seilwaith draenio presennol.

Bydd ymgysylltiad cyhoeddus gyda'r rhanddeiliaid perthnasol yn cael ei gyflawni yn rhan o gam nesaf y prosiect, sef cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru ac i’r cam dylunio Manwl.

 

Rheoli Perygl Llifogydd 

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,

CF37 4TH