Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Heol Llanwynno

Mae'r Cyngor yn bwriadu cwblhau gwelliannau o ran draenio tir a gwaith adfer rhwydwaith cwlfer ar gwrs dŵr cyffredin dienw sy'n tarddu o Heol Llanwynno, gan arllwys i Afon Cynon, gerllaw Heol Penrhiwceibr

Crynodeb o'r Cynllun

Ardal Strategol Perygl Llifogydd

Canol Cwm Cynon 2

Cyfeirnod y Cynllun Gweithredu Llifogydd

SFRA7 A2

Lleoliad

Heol Llanwynno, Aberpennar

Eiddo sy'n elwa

Tua 20 eiddo preswyl ac 1 busnes

Math o Gynllun

Adsefydlu Rhwydwaith Cwlfer

Statws

Hysbysiad Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1991 yn fyw

Yn aros am gyllid ar gyfer y cam adeiladu

Ffynhonnell Ariannu

Grant Cyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Cefndir y Cynllun

Mae Aberpennar wedi'i nodi'n ardal sydd â pherygl llifogydd dŵr wyneb uchel a chyrsiau dŵr cyffredin, yn seiliedig ar fapiau Asesiad Perygl Llifogydd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae cymuned Aberpennar hefyd wedi'i osod yn safle 75 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd cwrs dŵr cyffredin a dŵr wyneb ar Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR) 2024, a ddatblygwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu dull gwrthrychol o nodi risg a blaenoriaethu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ar lefel gymunedol Cymru gyfan.

Mae canlyniadau bod yn ardal llifogydd risg uchel wedi bod yn arbennig o amlwg dros y 5 mlynedd diwethaf, gyda Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert yn 2024 yn arwain at lifogydd mewnol eang ledled y gymuned.

Amcanion y Cynllun Arfaethedig

  • Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon gan lifogydd dwfn a chyflym.
  • Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd. 
  • Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
  • Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo cynaliadwyedd a lles.
  • Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd.
  • Gwella bioamrywiaeth leol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau. 
  • Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel.
  • Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd - lliniaru ôl troed carbon y prosiectau.
  • Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol. 

Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig

Mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud gwaith i wella draeniad tir ar gwrs dŵr cyffredin dienw sy'n tarddu ger Heol Llanwynno y tu cefn i Stryd Arthur yn Aberpennar ac sy'n cludo i'w gollyngfa yn yr Afon Cynon.

Bydd y gwaith yma yn cael ei gynnal o amgylch Heol Llanwynno, Stryd Arthur a Heol y Berth yn Aberpennar.

Bwriad y gwaith yw uwchraddio strwythur rhwydweithiau cwlferi'r cwrs dŵr cyffredin trwy ddulliau ail-leinio mewnol a thrwsio.  Bydd hyn yn lleihau'r risg bod y rhwydweithiau cwlferi cyrsiau dŵr arferol presennol yn methu'n strwythurol.  Mae'r gwelliannau yma yn gweithio hefyd yn rhan o Gynllun Gweithredu Llifogydd y Cyngor, sydd wedi'i gynllunio i fynd ati i reoli'r perygl o lifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin i eiddo yn Rhondda Cynon Taf.

Hysbysiad Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999

Dydy'r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, ni fwriedir paratoi datganiad amgylcheddol oherwydd, o ystyried nodweddion y gwaith gwella, sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y gwaith gwella a math a nodweddion effaith bosibl y gwaith gwella ar yr amgylchedd, ni ystyrir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd. Cafodd hysbysiad ar gyfer y gwaith yma ei gyhoeddi  ar 4 Ebrill 2025. Mae modd bwrw golwg ar yr hysbysiad

Rheoli Perygl Llifogydd 

Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llawr 2
Llys Cadwyn
Pontypridd

CF37 4TH

E-bost: RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk