Skip to main content

Cynllun Lliniaru Cwm Rhondda Fawr Isaf

Mae ABRh APLlS Cwm Rhondda Fawr Isafyn ceisio sefydlu Achos Busnes Rhaglen yn unol â Chanllawiau Achos Busnes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru er mwyn lleihau perygl llifogydd yn Ardal Perygl Llifogydd Strategol Cwm Rhondda Fawr Isaf fel y diffinnir gan Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a Chynllun Gweithredu Rhondda Cynon Taf 2024.

Mae'r dudalen yma'n darparu manylion am y gwaith arfaethedig a'i arwyddocâd i gymuned Cwm Rhondda Fawr Isaf.

Crynodeb o'r Cynllun

Ardal Perygl Llifogydd Strategol

Cwm Rhondda Fawr Isaf

Lleoliad

Cwm Rhondda Fawr Isaf

Eiddo sy'n Elwa

Tua 1752 eiddo preswyl a 164 busnes 

Math o Gynllun

Cynllun Lliniaru Llifogydd Cymhleth

Statws

Achos Busnes Rhaglen

Ffynhonnell Gyllido

Grant Cyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Cefndir y Cynllun

Er mwyn rheoli perygl llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, mae'r awdurdod wedi rhannu'r ardal yn 12 rhan. Cyfeirir at y rhain yn Ardaloedd Perygl Llifogydd Strategol. Mae pob ardal wedi'i lleoli o fewn dalgylch draenio, wedi'i ddyrannu yn seiliedig ar ddaearyddiaeth yr ardal a hanes llifogydd yn lleol. Mae 4 yng Nghwm Rhondda, 4 yng Nghwm Cynon, a 4 yn ardal Taf-elái. Mae dalgylch Cwm Rhondda Fawr Isaf yn cynnwys Afon Rhondda Fawr, ac mae wedi'i gategoreiddio gan gymoedd â llethrau serth, ac ardaloedd trefol ar rannau is y cwm.

Ers 2020, mae llifogydd wedi digwydd y tu mewn i eiddo yn APLlS Cwm Rhondda Fawr Isaf sawl tro, gan gynnwys Storm Bert.

Roedd y digwyddiad glawio mwyaf sylweddol, a gafodd ei alw yn 'Storm Dennis' gan y Swyddfa Dywydd, wedi digwydd rhwng 15ac 16 Chwefror 2020. Roedd y storm wedi arwain at lifogydd y tu mewn i 1,498 o gartrefi a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf, gyda 22 o'r rhain yn eiddo preswyl a 9 yn eiddo dibreswyl wedi'u lleoli yn APLlS Cwm Rhondda Fawr Isaf.

Yn fwy diweddar, rhwng 23 a 24 Tachwedd 2024, roedd digwyddiad glawio, a gafodd ei alw yn 'Storm Bert' gan y Swyddfa Dywydd, wedi arwain at lifogydd y tu mewn i 11 eiddo preswyl ac 8 eiddo dibreswyl arall yn APLlS Cwm Rhondda Fawr Isaf.

Mae APLlS Cwm Rhondda Fawr Isaf wedi'i nodi'n ardal sydd â pherygl llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin uchel, yn seiliedig ar fapiau Asesu Perygl Llifogydd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae 6 chymuned yn APLlS Cwm Rhondda Fawr Isaf wedi'u nodi yng Nghofrestr Cymunedau mewn Perygl 2024 Llywodraeth Cymru.  Mae'r cymunedau yma, a'u sgôr perygl llifogydd cymunedol ar gyfer dŵr wyneb a llifogydd cyrsiau dŵr cyffredin yng Nghymru (yn ôl y Gofrestr Cymunedau mewn Perygl) wedi'u nodi isod. Mae'r 6 chymuned yma yn rhan o'r 5% uchaf (y 111 uchaf) o gymunedau sydd â'r perygl mwyaf o ran perygl llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin yng Nghymru.

Cymunedau yn APLlS Cwm Rhondda Fawr Isaf (wedi'u nodi yng Ngofrestr Cymunedau mewn Perygl 2024)

Sgôr Perygl Llifogydd Cymunedol o ran Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Cyffredin yng Nghymru

Pen-y-graig

13

Tonypandy

17

Ystrad

35

Llwynypia

36

Cwm Clydach

77

Trealaw

109

Mae'r Cyngor wedi darparu sawl ymyrraeth yn yr APLlS yn barod er mwyn lleihau perygl llifogydd tra bod y rhaglen ehangach yn cael ei darparu.

  • Clirio a chynnal a chadw cilfachau cwlferi a rhwydweithiau.
  • Gosod systemau monitro TCC a mesuryddion lefel afon ar gyrsiau dŵr allweddol.
  • Darparu llifddorau gwydnwch eiddo rhag llifogydd (PFR) i eiddo a gafodd eu heffeithio gan Storm Dennis a Storm Bert.

Amcanion y Cynllun Arfaethedig

Wrth ddarparu'r prosiect yma, bydd yr awdurdod yn cyflawni 14 o'r amcanion a gafodd eu nodi yn rhan o Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol Rhondda Cynon Taf 1. Mae crynodeb wedi'i nodi isod:

  1. Lleihau'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio gan beryglon o lifogydd
  2. Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd dwfn a chyflym
  3. Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd
  4. Lleihau aflonyddwch i'r seilwaith critigol neu gefnogi cynlluniau i gynnal yr ymgyrch
  5. Gwella neu beidio â chael effaith andwyol ar ansawdd y dŵr
  6. Gwella naturioldeb lle bo'n bosib - lleihau addasiadau i sianeli, ardaloedd dyfrol, a chreu neu wella storfeydd gorlifdiroedd naturiol sy'n gysylltiedig â mentrau cadwraeth a thirweddau
  7. Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cynllunio mewn ffordd gynaliadwy
  8. Cynnal, neu wella statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Safleoedd Pwysig o ran Natur a Chadwraeth a chyfrannu at Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf
  9. Trin a thrafod buddion posibl lleihau perygl llifogydd drwy ddefnyddio technegau rheoli tir arloesol
  10. Darparu eglurder o ran dyletswyddau rhanddeiliaid mewn perthynas â llifogydd a cheisio cynorthwyo rhanddeiliaid i gyflawni eu dyletswyddau lle bo modd
  11. Gwella dealltwriaeth o beryglon llifogydd dŵr ffo, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin a chynllunio sut i rannu gwybodaeth â chymunedau a busnesau ynglŷn â phob math o lifogydd
  12. Hyrwyddo gwydnwch ar lefel eiddo/cymuned
  13. Sicrhau bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio mewn partneriaeth â Phartneriaid Perygl eraill ac yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau cyfagos
  14. Sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi o ran darparu cynlluniau rheoli perygl llifogydd yn cael eu gwneud ar sail gyson yn ôl blaenoriaeth, yn amodol ar ddadansoddiad cost a budd. 

Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig

Bwriad y prosiect yma yw sefydlu Achos Busnes Rhaglen er mwyn deall y peryglon sy'n gysylltiedig â ffynonellau perygl llifogydd lleol (llifogydd dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear) a nodi dewisiadau er mwyn eu rheoli nhw, yn ogystal â buddion ehangach posibl ar gyfer y gymuned.

Bydd yr Achos Busnes Rhaglen yn:

  • Asesu peryglon o ddŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear
  • Nodi rhestr hir o ymyraethau posibl, gan gynnwys datrysiadau peirianyddol a dulliau rheoli llifogydd naturiol
  • Gwerthuso'r peryglon sy'n gysylltiedig â chapasiti hydrolig, rhwystrau a gwendidau strwythurol yn y seilwaith cyfredol
  • Trin a thrafod cyfleoedd i weithio gyda phrosesau naturiol, megis storio yn agosach at y ffynhonnell, creu cynefinoedd a gwelliannau o ran rheoli tir
  • Ystyried buddion ehangach ar gyfer busnesau, rhwydweithiau trafnidiaeth a lles y gymuned. 

Mae'r dull yma ar lefel y rhaglen yn sicrhau bod datrysiadau yn effeithiol yn dechnegol a hefyd yn gynaliadwy yn amgylcheddol, yn canolbwyntio ar y gymuned ac yn cyd-fynd â gwydnwch hinsawdd hirdymor.  Efallai hefyd y bydd datblygiad y Cynllun yn cael ei gyflawni yn fwy lleol mewn lleoliadau penodol yn hytrach na'r dalgylch cyfan, wedi i'r dewisiadau gorau o ran rheoli risg gael eu nodi.

Rheoli Perygl Llifogydd 

Priffyrdd, Trafnidiaeth a Phrosiectau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llawr 2
Llys Cadwyn
Pontypridd

CF37 4TH

E-bost: RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk