Mae'r Cyngor yn cynnig cynnal gwaith i wella system draenio’r tir trwy adeiladu pwll gwanhau o fewn ffin y llinell goch, sydd i’w gweld yn y cynlluniau sydd ynghlwm, yn Lôn Maesyffynnon, Aberaman. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gwaith ategol i ddargyfeirio dau gwrs dŵr cyffredin dienw i'r pwll gwanhau.
|
Crynodeb o'r Cynllun
|
|
Ardal Perygl Llifogydd Strategol
|
Canol Cwm Cynon 1
|
|
Cyfeirnod y Cynllun Gweithredu Llifogydd
|
SFRA6 A1
|
|
Canolfan/Swyddfa/Gweithle
|
Lôn Maesyffynnon, Aberaman
|
|
Eiddo sy'n elwa
|
Tua 49 eiddo preswyl a 5 busnes
|
|
Math o Gynllun
|
Pwll Gwanhau
|
|
Statws
|
Cam adeiladu yn parhau
|
|
Ffynhonnell Gyllido
|
Grant Cyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru
|
Cefndir y Cynllun
Yn ôl mapiau Asesu Perygl Llifogydd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae cymuned Aberaman, ac yn benodol, Heol Caerdydd a'r ardal gyfagos wedi'u nodi i fod mewn perygl uchel o lifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin. Mae cymuned Aberaman hefyd wedi'i osod yn safle 96 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd cwrs dŵr cyffredin a dŵr wyneb ar Gofrestr Cymunedau mewn Perygl 2025, a ddatblygwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu dull gwrthrychol o nodi risg a blaenoriaethu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ar lefel gymunedol Cymru gyfan.
Mae canlyniadau bod yn ardal llifogydd risg uchel wedi bod yn arbennig o amlwg dros y 5 mlynedd diwethaf, gyda Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert yn 2024 yn arwain at lifogydd mewnol eang ledled y gymuned.
Amcanion y Cynllun Arfaethedig
- Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon gan lifogydd dwfn a chyflym.
- Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
- Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
- Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo cynaliadwyedd a lles.
- Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd.
- Gwella bioamrywiaeth leol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau.
- Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel.
- Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd - lliniaru ôl troed carbon y prosiectau.
- Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol.
Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig
Mae'r Cyngor yn cynnig cynnal gwaith i wella system draenio’r tir trwy adeiladu pwll gwanhau o fewn ffiniau’r darn o laswelltir ger Lôn Maesyffynnon, Aberaman. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gwaith ategol i ddargyfeirio dau gwrs dŵr cyffredin dienw i'r pwll gwanhau. Bydd cwmpas cadw dŵr y pwll gwanhau yn bodloni safon amddiffyn Q100 + 30% (newid yn yr hinsawdd).
Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal ar Lôn Maesyffynnon a Heol Caerdydd, Aberaman.
Bwriad y gwaith yw lleihau cyfaint y llifoedd brig sy'n mynd i lawr yr afon tuag at y rhwydwaith cwlferi yn ystod stormydd trwy wanhau'r llif o ddau gwrs dŵr cyffredin dienw. Mae'r gwelliannau yma hefyd yn rhan o Gynllun Gweithredu Llifogydd y Cyngor y blynyddoedd 2024-2026 a 2026-2028, sydd wedi'i gynllunio i reoli'r perygl o lifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin i eiddo yn Rhondda Cynon Taf.
Diweddariadau'r Cynlluniau Diweddaraf
Yn dilyn cyfnod ymgynghori o 30 diwrnod gyda'r cyhoedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, a gafodd ei gynnal rhwng 17 Mawrth a 18 Ebrill 2026, nodwyd bod gan y cynllun effaith amgylcheddol isel. Felly, dydy'r awdurdod ddim yn bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig.
Mae'r prif gontract adeiladu ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Maesyffynnon wedi'i roi i gwmni Centregreat, a fydd yn gweithredu'n Brif Gontractwr ar gyfer y prosiect. Mae'r gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo, wedi iddo ddechrau ar 13 Gorffennaf 2026 ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau ddiwedd mis Ebrill 2027. Gwerth y contract adeiladu yw £1.4 miliwn, gyda chyfanswm gwerth y cynllun, gan gynnwys costau dylunio a datblygu, wedi'i amcangyfrif i fod ychydig dros £2 filiwn.
Cafodd achlysur gwybodaeth ei gynnal ar 19 Awst 2026 er mwyn darparu diweddariad i drigolion a rhanddeiliaid ynglŷn â'r cynllun a'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau ar dir sy'n berchen i'r Cyngor. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd cyfnodau o aflonyddwch ar Lôn Maesyffynnon yn ystod y cam adeiladu. Rydyn ni wedi gosod mesurau yn eu lle er mwyn lleihau aflonyddwch lle bo'n bosibl ac i leihau effeithiau sain yn berthnasol i'r gwaith adeiladu ar gyfer eiddo sy'n agos i'r safle.
Gweld arolygu drôn
Rheoli Perygl Llifogydd
Gwasanaethau'r Amgylchedd,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llawr 2
Llys Cadwyn
Pontypridd
CF37 4TH
E-bost: RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk