Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Trehafod

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Trehafod yw datblygu a chyflawni rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â Chanllawiau Achos Busnes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i leihau perygl llifogydd yng nghymuned Trehafod yng Nghwm Rhondda. 

Mae'r dudalen yma'n darparu manylion am y gwaith arfaethedig a'i arwyddocâd i gymuned Trehafod.

Crynodeb o'r Cynllun

Ardal Perygl Llifogydd Strategol

Cwm Rhondda Fach Isaf

Lleoliad

Trehafod

Eiddo sy'n Elwa

Tua 73 eiddo preswyl a 2 fusnes 

Math o Gynllun

Cynllun Lliniaru Llifogydd Cymhleth

Statws

Achos Busnes Llawn (FBC) a Dyluniad Manwl. Aros am gyllid gan Lywodraeth Cymru

Ffynhonnell Gyllido

Grant Cyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Cefndir y Cynllun

Ers 2020, mae pentref Trehafod wedi cael ei effeithio gan lifogydd y tu mewn i eiddo ar bedwar achlysur ar wahân.

Digwyddodd y glawiad mwyaf arwyddocaol, a gafodd ei alw'n 'Storm Dennis' gan y Swyddfa Dywydd, rhwng 15 a 16 Chwefror 2020. Arweiniodd y storm at lifogydd y tu mewn i 1,498 o gartrefi a busnesau ledled RhCT, ac roedd 65 o eiddo preswyl a 3 busnes wedi'u lleoli yn Nhrehafod.

Yn fwy diweddar, rhwng 23 a 24 Tachwedd 2024, arweiniodd digwyddiad o law trwm a gafodd ei enwi'n 'Storm Bert' gan y Swyddfa Dywydd at lifogydd y tu mewn i 9 eiddo preswyl arall yn Nhrehafod.

Mae Trehafod wedi'i nodi'n ardal sydd â pherygl llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin uchel, yn seiliedig ar fapiau Asesu Perygl Llifogydd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ôl Cofrestr Cymunedau mewn Perygl Llywodraeth Cymru 2024, mae cymuned Trehafod wedi'i nodi fel rhif 99 ar restr y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf ar gyfer llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin, gyda 132 o eiddo wedi'u modelu i fod mewn perygl. Mae'r perygl yma'n gysylltiedig yn fras â chilfachau cwlferi sydd wedi'u rhwystro ac achosion posibl o orlifo sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith o gyrsiau dŵr cyffredin sy'n draenio llethrau'r bryniau gogleddol.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cyflawni sawl ymyrraeth yn Nhrehafod i leihau perygl llifogydd tra bod rhaglen ehangach y Cynlluniau Lliniaru Llifogydd yn cael ei chyflawni.

  • Yn 2023, cafodd 2.49 cilomedr o ddraeniau priffyrdd a chwrs dŵr â chwlfer ei fapio a'i arolygu yn Nhrehafod i asesu cyflwr strwythurol a gweithredol.
  • Yn 2024, cwblhaodd y Cyngor gynllun ar yr A4058 Ffordd Gyfeillion i wella capasiti seilwaith draenio'r briffordd i gludo dŵr wyneb i Afon Cwm Rhondda.
  • Yn dilyn Storm Bert, cafodd 41.15 metr arall o gwrs dŵr â chwlfer ei arolygu ar Ffordd Gyfeillion. 

Amcanion y Cynllun Arfaethedig

  • Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd dwfn a chyflym.
  • Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd. 
  • Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
  • Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo cynaliadwyedd a lles.
  • Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd.
  • Gwella bioamrywiaeth leol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau.
  • Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel.
  • Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd - lliniaru ôl troed carbon y prosiectau.
  • Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol.

Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig

Diben y prosiect yw rheoli perygl llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin i gymuned Trehafod trwy ddiweddaru gorsaf pwmpio dŵr wyneb Dŵr Cymru ar Heol Trehafod, ynghyd â seilwaith cysylltiedig.

Diben y cynllun yw darparu:

  • Safon amddiffyn 1 ym mhob 100 mlynedd, gan gynnwys lwfansau ar gyfer newid hinsawdd, i'r gymuned leol.
  • Cynnydd yng nghapasiti'r orsaf bwmpio, gan ganiatáu rheoli cyfradd lifo a chyfaint mwy, gan leihau'r perygl i eiddo yn yr ardal.

Mae manteision ehangach yn cynnwys cynnal llwybr trafnidiaeth arwyddocaol y gymuned, yn benodol Heol Gyfeillion (yr A4058), sef yr unig brif ffordd sy'n cysylltu Cymoedd Rhondda â Thaf-elái, a Heol Trehafod sef y prif lwybr drwodd i'r pentref, sy'n gwasanaethu rhesi o eiddo teras a fyddai fel arall wedi'u hynysu yn ystod llifogydd difrifol.

Mae Cyngor RhCT, trwy weithio gyda Waterco, eisoes wedi cwblhau Achos Cyfiawnhad Busnes, yn unol â Chanllawiau Achos Busnes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Roedd y cam yma'n cynnwys sgrinio a dadansoddi helaeth o wahanol opsiynau i fynd i'r afael â pherygl llifogydd lleol yn Nhrehafod, gan arwain at nodi opsiwn a ffefrir ar gyfer datblygiad pellach.

Bydd gwaith ymgysylltu cyhoeddus gyda'r rhanddeiliaid perthnasol yn cael ei gyflawni yn rhan o gam nesaf y prosiect, ac yna paratoi'r Achos Busnes Llawn ar gyfer Llywodraeth Cymru a symud ymlaen i'r cyfnod dylunio manwl.

Rheoli Perygl Llifogydd 

Priffyrdd, Trafnidiaeth a Phrosiectau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llawr 2
Llys Cadwyn
Pontypridd

CF37 4TH

E-bost: RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk