Mae'r Cyngor yn bwriadu cwblhau gwelliannau o ran draenio tir a gwaith uwchraddio casgen cwlfer i gwrs dŵr cyffredin dienw sy'n tarddu o Heol Turberville gan arllwys i Afon Rhondda.
Crynodeb o'r Cynllun
|
Ardal Strategol Perygl Llifogydd
|
Cwm Rhondda Fach Isaf
|
Cyfeirnod y Cynllun Gweithredu Llifogydd
|
SFRA4 A1
|
Lleoliad
|
Heol Turberville, Porth
|
Eiddo sy'n elwa
|
Tua 35 eiddo preswyl a 6 busnes
|
Math o Gynllun
|
Uwchraddio Casgen Cwlfer
|
Statws
|
Hysbysiad Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1991 yn fyw
Yn aros am gyllid ar gyfer y cam adeiladu
|
Ffynhonnell Ariannu
|
Grant Cyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru
|
Cefndir y Cynllun
Mae Porth wedi'i nodi'n ardal sydd â pherygl llifogydd dŵr wyneb uchel a chyrsiau dŵr cyffredin, yn seiliedig ar fapiau Asesiad Perygl Llifogydd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae cymuned Porth hefyd wedi'i osod yn safle 33 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd cwrs dŵr cyffredin a dŵr wyneb ar Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR) 2024, a ddatblygwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu dull gwrthrychol o nodi risg a blaenoriaethu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ar lefel gymunedol Cymru gyfan.
Mae canlyniadau bod yn ardal llifogydd risg uchel wedi bod yn arbennig o amlwg dros y 5 mlynedd diwethaf, gyda Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert yn 2024 yn arwain at lifogydd mewnol eang ledled y gymuned.
Amcanion y Cynllun Arfaethedig
- Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon gan lifogydd dwfn a chyflym.
- Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
- Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
- Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo cynaliadwyedd a lles.
- Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd.
- Gwella bioamrywiaeth leol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau.
- Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel.
- Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd - lliniaru ôl troed carbon y prosiectau.
- Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol.
Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig
Mae'r Cyngor yn bwriadu cyflawni gwaith gwella draenio tir ar gwrs dŵr cyffredin dienw sy'n tarddu o Heol Turberville ac sy'n cludo i'w gollyngfa yn Afon Rhondda.
Bydd y gwaith yma yn cael ei gynnal ar Heol Turberville, Heol Packer, a Heol Aber-rhondda yn nhref Porth.
Bwriedir i'r gwaith uwchraddio'r gasgen cwlfer ar draws rhwydwaith rhan isaf yr afon er mwyn sicrhau bod cynhwysedd y system yn faint priodol ar gyfer digwyddiad newid yn yr hinsawdd Q100 (1 mewn 100 mlynedd) + 30%. Er mwyn hwyluso'r gwelliant yma, bydd y gwaith arfaethedig hefyd yn cynnwys rhan o storfa o dan y ddaear i leihau'r graddau y bydd angen uwchraddio yn is i lawr yr afon lle mae mynediad arferol i gwrs dŵr wedi'i gyfyngu gan dai teras a garejys/adeiladau estyniad. Mae'r gwelliannau yma hefyd yn rhan o Gynllun Gweithredu Llifogydd y Cyngor, sydd wedi'i gynllunio i reoli'r perygl o lifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin i eiddo yn Rhondda Cynon Taf.
Hysbysiad Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999
Dydy'r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, ni fwriedir paratoi datganiad amgylcheddol oherwydd, o ystyried nodweddion y gwaith gwella, sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y gwaith gwella a math a nodweddion effaith bosibl y gwaith gwella ar yr amgylchedd, ni ystyrir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd. Cafodd hysbysiad ar gyfer y gwaith yma ei gyhoeddi ar 4 Ebrill 2025. Mae modd bwrw golwg ar yr hysbysiad.
Rheoli Perygl Llifogydd
Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llawr 2
Llys Cadwyn
Pontypridd
CF37 4TH
E-bost: RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk