Mae rhybuddion tywydd a rhybuddion llifogydd yn hanfodol er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am beryglon posibl a chymryd y rhagofalon angenrheidiol i reoli effeithiau posibl.
Mae modd i chi gofrestru i gael rhybuddion tywydd a rhybuddion llifogydd drwy’r asiantaethau/dulliau canlynol:
Y Swyddfa Dywydd
|
Y Swyddfa Dywydd yw gwasanaeth tywydd cenedlaethol y DU ac mae'n darparu rhagolygon a rhybuddion tywydd cywir a chyfredol.
Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd (www.metoffice.gov.uk) neu lawrlwythwch ap y Swyddfa Dywydd i weld rhagolygon y tywydd a rhybuddion tywydd. Mae modd i chi gofrestru i dderbyn rhybuddion tywydd ar gyfer eich ardal naill ai trwy e-bost neu ar ap swyddogol y Swyddfa Dywydd ar eich ffôn.
|
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
|
CNC yw'r corff amgylcheddol sy'n gyfrifol am reoli adnoddau naturiol a risgiau amgylcheddol yng Nghymru. Nhw hefyd yw'r Awdurdod Rheoli Risg sydd â phwerau i reoli'r perygl o lifogydd o brif afonydd.
Mae CNC yn darparu rhybuddion llifogydd am ddim, rhybuddion llifogydd, a gwybodaeth sy’n ymwneud â llifogydd sy’n benodol i Gymru drwy ei Wasanaeth Rhybuddion Llifogydd.
Ewch i wefan CNC (https://naturalresources.wales/?lang=cy) neu cofrestrwch ar gyfer eu gwasanaeth rhybuddion llifogydd i dderbyn hysbysiadau amserol am beryglon llifogydd yn eich ardal.
|
Y Cyfryngau Cymdeithasol ac Apiau Ffonau Symudol
|
Dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol y Swyddfa Dywydd, CNC, a’r Cyngor i dderbyn diweddariadau a rhybuddion byw ynghylch risgiau tywydd a llifogydd.
Lawrlwythwch ap swyddogol y Swyddfa Dywydd er mwyn i rybuddion tywydd gael eu hanfon yn syth i'ch dyfais symudol.
|
Gwefan y Cyngor
|
Edrychwch ar wefan y Cyngor am wybodaeth berthnasol am dywydd, llifogydd a chau ffyrdd sy’n benodol i’ch ardal chi.
|
Deall Rhybuddion Tywydd a Rhybuddion Llifogydd
Rhybuddion Tywydd
Mae'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion tywydd pan mae modd i dywydd garw effeithio ar y DU. Rhoddir lliw i'r rhybuddion hyn (melyn, ambr, neu goch) yn dibynnu ar gyfuniad o'r effaith y gallai'r tywydd ei chael a'r tebygolrwydd y bydd yr effeithiau hynny'n digwydd.
Mae'n bwysig deall beth mae'r rhybuddion tywydd gwahanol yn golygu er mwyn i chi ddeall beth i'w ddisgwyl pan mae rhybudd yn cael ei gyhoeddi.
Rhybudd Tywydd
|
Beth allai fod yn digwydd?
|
Beth ddylech chi ei wneud?
|
MELYN
|
Mae modd cyhoeddi rhybuddion melyn ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd tywydd. Mae llawer yn cael eu cyhoeddi pan mae'n debygol y bydd y tywydd yn achosi rhai effeithiau ar raddfa fach, gan gynnwys rhywfaint o darfu ar deithio mewn rhai lleoedd.
|
Dylech wirio manylion y rhagolwg ac ystyried cymryd camau i leihau'r effeithiau arnoch chi a'ch cartref.
|
AMBR
|
Mae'n fwy tebygol y bydd tywydd garw yn cael effaith ac mae modd i hyn amharu ar eich cynlluniau. Mae hyn yn golygu bod posibilrwydd o oedi wrth deithio, cau ffyrdd a rheilffyrdd, colli pŵer ac mae perygl posibl i fywyd ac eiddo.
|
Mae'n fwy tebygol y bydd tarfu a bydd hyn yn fwy eang. Dylech chi newid cynlluniau a allai gael eu heffeithio gan y tywydd a chymryd camau i amddiffyn eich hun a'ch eiddo.
|
COCH
|
Disgwylir tywydd peryglus, ac mae’n debygol iawn y bydd perygl i fywyd, gyda tharfu sylweddol i deithio, cyflenwadau ynni a difrod eang posibl i eiddo a'r seilwaith.
|
Dylech chi weithredu nawr i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel rhag effaith y tywydd garw. Dylech chi osgoi teithio, lle bo modd, a dilyn cyngor y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol.
|
Am ragor o wybodaeth am ganllawiau rhybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd cliciwch yma.
Rhybuddion Llifogydd
Rhoddir tri math o rybudd pan ragwelir llifogydd, sef hysbysiad llifogydd, rhybudd llifogydd a rhybudd llifogydd difrifol.
Cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd am ddim a rhybuddion am lifogydd o afonydd neu'r môr ar-lein yn https://naturalresources.wales/flooding?lang=cy neu cysylltwch â Llifogydd 0345 988 1188 neu Type Talk: 0345 602 6340.
Cod llifogydd
|
Beth allai fod yn digwydd?
|
Camau gweithredu
|
Hysbysiad Llifogydd Mae llifogydd yn bosibl, byddwch yn barod.
|
- Llifogydd mewn caeau, tir hamdden a meysydd parcio
- Llifogydd ar ffyrdd bach
- Llifogydd ar dir fferm
- Bydd tir isel a ffyrdd yn cael eu heffeithio gyntaf
|
- Paratowch eich cartref, busnes neu fferm ar gyfer llifogydd
- Cadwch lygaid ar lefelau afonydd lleol ar-lein a'r perygl llifogydd 5 diwrnod
- Dylai ffermwyr ystyried symud da byw ac offer i ffwrdd o ardaloedd sy'n debygol o ddioddef llifogydd.
|
Rhybudd Llifogydd
Disgwylir llifogydd, mae angen gweithredu ar unwaith.
|
- Llifogydd mewn cartrefi a busnesau
- Llifogydd yn effeithio ar seilwaith y rheilffyrdd a ffyrdd
- Mannau helaeth o orlifdir dan ddŵr (gan gynnwys meysydd carafanau a meysydd gwersylla)
|
- Symudwch deulu, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i le diogel
- Diffoddwch y cyflenwad nwy, trydan a dŵr os yw'n ddiogel i chi wneud hynny
- Rhowch offer amddiffyn rhag llifogydd yn eu lle
|
Rhybudd Llifogydd Difrifol
Perygl i fywyd.
|
- Dŵr llifogydd dwfn a chyflym
- Malurion yn y dŵr yn achosi perygl
- Posibilrwydd y bydd adeiladau a strwythurau yn cwympo neu mae adeiladu eisoes wedi cwympo
- Cymunedau'n cael eu hynysu gan lifddyfroedd
- Seilwaith hanfodol ar gyfer cymunedau ddim yn gweithio
- Cymunedau'n cael eu gwacáu
|
- Arhoswch mewn lle diogel gyda ffordd o ddianc
- Byddwch yn barod i adael eich cartref
- Cydweithredwch gyda’r gwasanaethau brys
- Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol
|
Am ragor o wybodaeth am y Rhybuddion Llifogydd a’r hyn y maen nhw'n ei olygu bwriwch olwg ar ganllawiau'r Flood Hub yma.