Os ydych chi'n bwriadu gwneud unrhyw waith ar gwrs dŵr cyffredin, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi gael caniatâd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dan Ddeddf Draenio Tir.
O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) yw’r awdurdod cydsynio ar gyfer gwaith arfaethedig o fewn cwrs dŵr, sydd angen caniatâd o dan Adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991. Gall y gwaith yma gynnwys cwlfert, cored, argae, pwll neu strwythur arall newydd neu newid i aliniad neu lan cwrs dŵr sy'n effeithio ar lif y dŵr o fewn y sianel.
Mae'r rheoliadau ar gyfer cyrsiau dŵr cyffredin yn ceisio rheoli mathau penodol o weithgarwch a fyddai'n gallu cael effaith negyddol ar faterion perygl llifogydd a'r amgylchedd.
Beth yw Cwrs Dŵr Cyffredin?
Mae cwrs dŵr cyffredin yn gwrs dŵr sydd ddim yn rhan o brif afon. Mae hyn yn cynnwys nentydd, ffosydd, traeniau, toriadau, cwlfertau, morgloddiau, llifddorau, carthffosydd (ac eithrio carthffosydd cyhoeddus) a thramwyfeydd, y mae dŵr yn llifo drwyddyn nhw.
Os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith ar brif afon, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd gan y corff priodol, Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae modd gwirio a yw cwrs dŵr yn cael ei ystyred yn Brif Afon gan ddefnyddio Map llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Oes angen Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin arna i?
Bydd rhaid cael caniatâd am unrhyw waith sy'n effeithio'n uniongyrchol ar lif y dŵr mewn cwrs dŵr cyffredin. Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith parhaol a/neu dros dro.
Mae Atodiad A o'r Canllawiau Cyrsiau Dŵr Cyffredin yn darparu rhestr o weithgareddau caniataol a gweithgareddau nad oes modd eu caniatáu.
Sylwch, hyd yn oed os oes gyda chi ganiatâd cynllunio, neu unrhyw fath arall o ganiatâd, efallai y bydd angen caniatâd arnoch o hyd ar gyfer gwaith ar gyrsiau dŵr cyffredin.
Os nad ydych chi'n siŵr a oes angen caniatâd arnoch chi, cysylltwch â RCTOWC@rctcbc.gov.uk i geisio cyngor.
Sut rydw i'n cyflwyno cais?
Er mwyn cyflwyno'ch cais, llenwch y Ffurflen Gais Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin.
Bydd angen i chi gynnwys sawl dogfen ategol gyda'ch cais. Heb yr wybodaeth yma, mae’n debygol y bydd eich cais yn cael ei wrthod, felly gwnewch yn siŵr bod gyda chi bopeth sydd ei angen arnoch cyn i chi wneud cais.
Mae modd gweld y Nodiadau Cyfarwyddyd a'r Polisi Cwlferu i gael arweiniad neu cysylltwch â ni am ragor o gymorth ar ba ddogfennau ategol sydd eu hangen.
Sut mae'r caniatâd yn cael ei weinyddu?
I gael caniatâd, rhaid talu ffi gwerth £50 fesul strwythur. Pan dderbynnir cais cwbl gyflawn gan gynnwys taliad, mae gan geisiadau gyfnod penderfynu statudol o 2 fis o ddyddiad y taliad. Mae modd i gais gael ei ganiatáu, ei wrthod neu ei ganiatáu gydag amodau a bydd amserlen yn cael ei rhoi ar gyfer y gwaith.
Os na chewch chi wybod am benderfyniad cyn y dyddiad cau yma, rhoddir caniatâd yn awtomatig.
Os nad ydych chi'n siŵr faint o strwythurau y bydd eich cynlluniau yn eu cynnwys neu beth sydd angen i chi dalu amdano, cysylltwch â ni.
Pryd bydd eisiau i mi wneud cais?
Rhaid rhoi caniatâd cyn cynnal unrhyw waith. Does dim modd i ni roi caniatâd ôl-weithredol ar gyfer gwaith sydd wedi’i gwblhau neu sydd eisoes yn mynd rhagddo. Os bydd gwaith yn cael ei gynnal heb ganiatâd, yna mae'n bosibl y byddwn yn mynnu'n gyfreithiol bod y cwrs dŵr yn cael ei ddychwelyd i'w gyflwr gwreiddiol. Ceir rhagor o wybodaeth am bwerau gorfodi'r Cyngor mewn perthynas â rheoleiddio cyrsiau dŵr cyffredin ar ein Tudalen Gorfodaeth Draenio Tir.
Beth fydd yn cael ei ystyried yn y cais?
Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ystyried sut bydd y gwaith, o bosibl, yn effeithio ar faterion perygl llifogydd a'r amgylchedd. Mae disgwyl i'r ymgeisydd drefnu'r gwaith fel does dim cynnydd ym mherygl llifogydd i drydydd parti a sicrhau caniatâd unrhyw berchnogion tir a meddianwyr sy'n cael eu heffeithio gan y gwaith.
Byddwn ni'n gwirio a yw'r asesiadau gofynnol wedi cael eu gwneud, er enghraifft, Asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr neu Asesu Effeithiau Amgylcheddol (mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gallu rhoi cyngor cyffredinol ar ba asesiadau mae eisiau eu gwneud, ond, yn y pen draw, y datblygwyr sy'n gyfrifol am eu gwneud nhw).
Os ydy'r gwaith yn cael ei wneud ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mewn Ardal Cadwraeth Arbennig neu mewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn trafod y mater â Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, gynt). Ond, os yw'r gwaith yn cael ei wneud ar safle sydd â rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod, mae rhaid i'r ymgeisydd gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, gynt) yn uniongyrchol, rhag ofn bod eisiau trwydded dan ddeddfwriaeth rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod.
Rhesymau y gallai eich cais gael ei wrthod
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ragdybiaeth gyffredinol yn erbyn sianelu (pibellau) Cyrsiau Dŵr Cyffredin. Er mwyn i gymeradwyaeth gael ei rhoi, rhaid rhoi rheswm dilys dros y gwaith arfaethedig pan wneir cais. Os yw dewisiadau eraill yn lle ceuffos wedi'u diystyru, dylid darparu tystiolaeth o hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Polisi Cwlferu.
Rhaid darparu digon o wybodaeth a rhesymeg er mwyn i geisiadau gael eu hasesu. Mae modd gwrthod ceisiadau am nifer o resymau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Mae'r gwaith yn achosi cynnydd mewn perygl llifogydd yn lleoliad y gwaith neu mewn man arall.
- Dim digon o wybodaeth wedi'i chyflwyno i ganiatáu asesiad o gais.
- Effeithiau andwyol ar ecoleg a bioamrywiaeth neu ansawdd dŵr - yn gysylltiedig â'r Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
- Gall dewisiadau amgen hyfyw fodoli sy'n achosi llai o effaith ar y cwrs dŵr cyffredin (fel cadw sianel agored dros geuffos).
Os caiff eich cais ei wrthod, mae gyda chi hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniad o dan Adran 23(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991. Fel arall, mae modd gwneud cais newydd ar unwaith.
Manylion Cyswllt
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan mewn trafodaethau â ni cyn gwneud cais am ganiatâd. Drwy gynnal trafodaeth cyn gwneud cais, mae'n bosibl ystyried opsiynau lle does dim angen caniatâd ac sydd ddim yn cael effaith negyddol ar y cwrs dŵr. Os oes eisiau caniatâd, mae cynnal trafodaethau cyn gwneud cais yn gallu sicrhau bod ymgeiswyr yn deall y gofynion ac unrhyw ffyrdd eraill o wneud y gwaith lle does dim angen caniatâd.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r broses ganiatáu, cynnal trafodaethau cyn gwneud cais a gwneud cais am ganiatâd, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Dyma'r manylion cyswllt:
Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,
CF37 4TH