Skip to main content

Gorfodi

Un o brif swyddogaethau'r Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy yw rheoleiddio dyluniad ac adeiladwaith gwaith adeiladu sydd â goblygiadau o ran draenio.

Weithiau bydd gwaith adeiladu newydd yn mynd yn ei flaen heb Gymeradwyaeth Draenio Cynaliadwy gael ei rhoi neu mewn modd sydd ddim yn unol â chymeradwyaeth yr SAB. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae modd i'r SAB ddefnyddio  pwerau gorfodi rheoliadol i unioni unrhyw ffaeleddau yn y broses cymeradwyo.

Cysylltwch â ni

Os ydych chi'n credu fod problem yn bodoli o ran diffyg cydymffurfio â chymeradwyaeth yr SAB, bydden ni'n hynod ddiolchgar pe baech chi'n ein ffonio ni ar 01443 425001. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl i ni am union natur eich pryder chi. Y math o fanylion fydd eu hangen arnom fydd:

  • Union leoliad y safle
  • Yr hyn sydd wedi digwydd ar y tir a phryd y cychwynnodd hyn (mae datblygiadau cyn Ionawr 7 2019 wedi'u heithrio rhag cymeradwyaeth yr SAB ac felly maen nhw wedi'u heithrio i unrhyw orfodaeth gan yr SAB)
  • Maint y safle, yn fras (Mae unrhyw ddatblygiad dan 100 metr sgwâr wedi'i eithrio i gymeradwyaeth yr SAB ac felly maen wedi'u heithrio i unrhyw orfodaeth gan yr SAB)
  • Enwau a chyfeiriadau unrhyw berson sy'n ymwneud â'r diffyg cydymffurfiaeth
  • Union natur eich pryder (e.e. arwydd o unrhyw niwed sydd wedi'i achosi)

Bydd eich cwyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol a fydd eich enw chi ddim yn cael ei ddatgelu.

Canlyniadau Peidio Cydymffurfio

Os bydd 'unrhyw waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio' yn cael ei wneud sydd ddim yn cydymffurfio â chymeradwyaeth neu heb dderbyn cymeradwyaeth yn y lle cyntaf, bydd y datblygwr yn destun camau gorfodi dan Atodlen 3, Paragraff 14 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

O gychwyn Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 mae ystod o bwerau gorfodi yn cael eu rhoi i'r SAB sy'n cynnwys:

  • Hysbysiad gorfodi
  • Hysbysiadau Stop
  • Hysbysiadau Stop Dros Dro
  • Pwerau mynediad
  • Pwerau i ymgymryd â gwaith adfer a chodi tâl amdano

Lle nad yw datblygwr yn cydymffurfio â'r pwerau sydd wedi'u hamlinellu yn y ddeddfwriaeth; ac mae'n cael ei erlyn yn llwyddiannus, yna mae'r datblygwr yn 'Euog o drosedd' ac mae'n agored i ddirwy a roddir gan y llys. Yn ogystal, lle ceir datblygwr yn euog, bydd modd i'r Corff Cymeradwyo ar gyfer systemau Draenio Cynaliadwy adennill costau gan y troseddwr.