Mae'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn annog ymgeiswyr i geisio cyngor cyn cyflwyno cais am Gymeradwyaeth Draenio Cynaliadwy. Bydd yn caniatáu'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy i nodi unrhyw gyfyngiadau posibl a rhoi adborth mewn perthynas â'r Safonau Cenedlaethol. Nod y gwasanaeth cyn cyflwyno cais yw annog a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ar gyfer pob gwaith adeiladu sydd â goblygiadau draenio.
Rhaid pwysleisio bod y gwasanaethau cyn gwneud cais sydd wedi'u hamlinellu isod ddim yn gwneud penderfyniadau ynglŷn ag unrhyw gais a gafodd ei dderbyn gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar sail rhagfarn.
Darparu Gwasanaethau
Mae’r SAB yn cynnig nifer o fathau o wasanaethau cyn cyflwyno/gwneud cais i gefnogi ymgeiswyr. Am daliadau sy’n gysylltiedig â phob un o’r gwasanaethau, gweler ein Rhestr o Gostau.
Roedden ni am roi gwybod i chi am gynnydd o 5% yn y ffi ar gyfer ein gwasanaethau Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) (cyn-geisiadau) dewisol, yn weithredol o 01/04/2024. Er ein bod ni'n effro i'r ffaith bod unrhyw gynnydd mewn ffioedd yn gallu bod yn anodd, rydyn ni am roi gwybod i chi mai nid ar chwarae bach y cafodd y penderfyniad yma ei wneud.
Y rheswm dros gynyddu'r gyfradd ffi yw'r costau uwch sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaeth. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r gost o ddarparu'r gwasanaeth wedi cynyddu yn sgil chwyddiant a'r cynnydd yng nghostau byw.
Rydyn ni'n effro i'r ffaith y mae modd i'r cynnydd yma mewn ffioedd fod yn heriol. Serch hynny, mae’r cynnydd yma yn y gyfradd ffioedd yn angenrheidiol er mwyn cynnal y gwasanaeth o safon uchel y mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn ei ddisgwyl erbyn hyn. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bawb yn Rhondda Cynon Taf, ac felly credwn ni fod y cynnydd yma yn y gyfradd ffioedd yn angenrheidiol i sicrhau bod modd i ni barhau i wneud hynny.
Hoffwn ni bwysleisio bod y Cyngor yn gweithredu o fewn cyfyngiadau cyllidebol tynn, ac rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas i liniaru'r effaith ariannol ar bob defnyddiwr gwasanaeth.
Hoffwn ni ddiolch i chi i gyd am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth barhaus i Wasanaeth Draenio Cynaliadwy ein Cyngor lleol. Rydyn ni'n parhau i fod wedi'n hymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol yma i bawb yn ein cymuned ac rydyn ni o'r farn bod y cynnydd yma yn y gyfradd ffioedd yn angenrheidiol i sicrhau bod modd i ni barhau i gynnal ein safonau uchel.
Rhaid talu ffioedd llawn o flaen llaw ac ni ellir eu had-dalu. Codir TAW hefyd ar wasanaethau disgresiynol.
Cyflwyno'ch cais ar gyfer cyngor cyn cyflwyno cais ar-lein
SYLW - Mae'r ffurflen gais ar-lein yn profi materion technegol. Os byddwch yn derbyn neges gwall, cysylltwch â'r SAB trwy SAB.Application@rctcbc.gov.uk i ofyn am ffurflen gais pdf"
Rhaid i chi ddefnyddio'n ffurflen ar-lein er mwyn cyflwyno Cais Cyn-ymgeisio ar gyfer System Draenio Cynaliadwy.
Nodwch: Yn rhan o'r broses gwneud cais ar-lein, rhaid i'r holl ddogfennau ategol gael eu huwchlwytho a'u cyflwyno. Po fwyaf manwl yw'r wybodaeth y mae'r ymgeisydd yn ei darparu i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn ystod y broses cyn cyflwyno cais, po fwyaf manwl fydd yr ymateb.
Darparu Gwasanaeth:
Gwiriad Dilysu
Mae'r gwasanaeth yn darparu gwiriad dilysu ar gais cyn cyflwyno'r cais llawn.
Adolygiad o'r Strategaeth
Bydd y gwasanaeth yma'n cynnwys adolygiad strategaeth ddraenio ond dydy e ddim ar gyfer adolygiad manwl o gyfrifiadau draeniad dŵr wyneb a dyluniad systemau draenio.
Y canlyniad yw adroddiad cryno sy'n rhoi adolygiad o'r strategaeth ddraenio mewn perthynas â'r Safonau Cenedlaethol. Bydd hefyd yn cynnwys crynodeb o'r hyn sy'n ofynnol i'r cais fod yn ddilys yn y cam ymgeisio llawn.
Adolygiad Manwl
Mae'r gwasanaeth yma'n rhoi adolygiad technegol o'r ffurflen gais cyn cyflwyno cais a'r holl ddogfennau ategol. Deilliant y gwasanaeth yma fydd adroddiad sy'n crynhoi cydymffurfiaeth y cais â'r Safonau Cenedlaethol.
Adolygiad Manwl Bellach
Mae'r gwasanaeth yma'n cynnwys cynnal cyfarfod rhithwir yn ogystal â'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu yn rhan o'r adolygiad manwl. Bydd y gwasanaeth yma'n arwain at adroddiad sy'n crynhoi'r cyfarfod a chydymffurfiaeth y cais â'r Safonau Cenedlaethol.
Po fwyaf manwl yw'r wybodaeth y mae'r ymgeisydd yn ei darparu i'r Corff Cymeradwyo yn ystod y broses cyn cyflwyno cais, po fwyaf manwl fydd yr ymateb.
Gwasanaethau ychwanegol
Mae'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy hefyd yn cynnig gwasanaethau yn ogystal â'r gwasanaethau sydd wedi'u nodi uchod. Mae'r rhain yn cynnwys cyngor technegol ar gyfradd awr, cyfarfod rhithwir a chyfarfod ar y safle.
Cyngor cyn cyflwyno cais: Y broses
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, bydd y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn cysylltu â chi i roi eich cyfeirnod Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy unigryw a chost y gwasanaeth Cyn-cyflwyno cais rydych chi wedi gofyn amdano i chi.
Nodwch: Bydd y gwasanaeth cyn cyflwyno cais ond yn cychwyn unwaith y bydd y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy wedi derbyn eich taliad.
Sut i dalu
Mae ein staff yn gweithio gartref ar hyn o bryd oherwydd Covid-19. Felly, er mwyn trefnu talu drwy gerdyn debyd neu gredyd, rhowch wybod i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) am fanylion cyswllt y sawl sy'n talu a bydd y SAB yn trefnu i'r taliad gael ei brosesu. Os oes angen dull talu arall, e-bostiwch y SAB: Ceisiadau.SAB@rhondda-cynon-taf.gov.uk