Skip to main content

Strategaeth Toiledau Lleol

Mae toiledau at ddefnydd y cyhoedd yn bwysig i bawb ac yn hanfodol bwysig i breswylwyr ac ymwelwyr, yn enwedig rhai grwpiau fel pobl hŷn, pobl ag anableddau neu broblemau meddygol, a rhieni neu warcheidwaid.

Mae toiledau cyhoeddus yn cael effaith enfawr ar gysur trigolion ac ymwelwyr ac mae gwybod ble mae'r rhain wedi'u lleoli yn cynyddu'r ymdeimlad o ddiogelwch sydd gan bobl.

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei gwneud hi'n orfodol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer yr ardal. Cyhoeddwyd Strategaeth Toiledau Lleol gyntaf Rhondda Cynon Taf yn 2019 ac yn unol â gofynion statudol cafodd ei hadolygu ar 4 Mai 2023.

Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb dros gyflawni'r canlynol:

  • Asesu anghenion y gymuned o ran toiledau, gan gynnwys cyfleusterau newid ar gyfer babanod a chyfleusterau newid i bobl ag anableddau.
  • Rhoi manylion o sut i ddiwallu'r angen a gafodd ei nodi.
  • Llunio Strategaeth Toiledau Lleol, ac
  • Adolygu'r strategaeth, ei diweddaru a rhoi cyhoeddusrwydd i ddiwygiadau.

Gallwch weld gwybodaeth ychwanegol am Strategaeth Toiledau Lleol RhCT

Darganfyddwch ble mae'ch toiledau cyhoeddus agosaf. 

A hoffai eich busnes fod yn rhan o strategaeth toiledau lleol RhCT?

Toilet sticker

Gall busnes neu sefydliad ddangos eu bod yn hapus i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau toiled trwy arddangos sticer ffenestr y Cynllun Toiledau Cymunedol.

Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad a hoffai gymryd rhan yng Nghynllun Toiledau Cymunedol Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â'r Garfan Datblygu’r Gymuned: rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk