Skip to main content

Hebryngwyr Croesfan Ysgol

Mae gan y gwasanaeth patrolio ysgolion rôl hanfodol i'w chwarae o ran sicrhau diogelwch oedolion a phlant wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

Mae yna tua 60 safle ledled Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Rhaid i bob ysgol sy'n gofyn am Hebryngwr Croesfan Ysgol gwrdd â meini prawf penodol. Bydd asesiad, gan gynnwys cyfrif cerbydau a cherddwyr, yn digwydd.

Mae'r Hebryngwr Croesfan Ysgol yn aelod ymroddedig o Garfan Diogelwch y Ffyrdd. Ar heolydd prysur heddiw, mae'n cymryd person arbennig i gamu a stopio'r traffig. Ar yr un pryd, rhaid cadw sylw'r plant tan iddyn nhw groesi yn ddiogel, beth bynnag y tywydd.

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r penderfyniad ar sail canllawiau cenedlaethol ac amodau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys faint o blant sy'n croesi yn y fan honno, nifer a chyflymder y traffig, cofnodion damweiniau a'r amgylchedd o gwmpas.

Swyddi Gwag Mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor ac mewn canolfannau byd gwaith. Mae'r Cyngor wastad yn chwilio am hebryngwyr (parhaol a dros dro) o bob oedran. Mae llenwi ffurflen Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn rhan o'r broses benodi.

Y Gyfraith Pan fydd Hebryngwr Croesfan Ysgol yn dangos yr arwydd stopio, rhaid i yrwyr stopio. Os nad ydyn nhw'n gwneud hynny, gall y gyrrwr gael ei gyfeirio at yr heddlu a derbyn dirwy neu bwyntiau cosb ar ei drwydded.