Mae nifer o newidiadau i wasanaethau'r bysiau yn ardaloedd y Rhondda a Thonysguboriau o 1 Medi 2019. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud gan gwmni Stagecoach, oni bai bod nodyn gwahanol.
Gwasanaeth 65 Tonysguboriau- Pen-y-bont ar Ogwr (cwmni First Cymru) -Newidiadau i'r amserlen i wella dibynadwyedd.
Gwasanaeth 120 Blaencwm / Blaenrhondda - Caerffili trwy'r Porth a Phontypridd - Mae rhai teithiau wedi'u hail-amseru i wella dibynadwyedd. Ar ddydd Sul, mae cysylltedd â gwasanaeth 132 (Y Maerdy i Gaerdydd) a 122 (Tonypandy i Gaerdydd) wedi'i wella.
Gwasanaethau 122 a X122 Tonypandy – Caerdydd drwy Donysguboriau – cyflwyno gwasanaeth X122 cyflymach newydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan adael gorsaf fysiau Tonypandy am 06.40 a 06.55 a Chaerdydd am 17.20. Fydd yr X122 ddim yn gwasanaethu Trebanog, Tonyrefail, Coed-elái na Phont-y-clun. Ar ddydd Sul, mae gwasanaeth 122 yn parhau i Fae Caerdydd.
Gwasanaeth 130 Blaencwm / Blaenrhondda - Caerffili trwy'r Porth (a Phontypridd) - Mae rhai teithiau wedi'u hail-amseru i wella dibynadwyedd. Ar ddydd Sadwrn, mae'r gwasanaeth yn parhau trwy'r Porth i Bontypridd. Ar ddydd Sul, mae cysylltedd â gwasanaeth 132 (Y Maerdy i Gaerdydd) a 122 (Tonypandy i Gaerdydd) wedi'i wella.
Gwasanaethau 132 a X32 Y Maerdy - Caerdydd trwy'r Porth a Phontypridd - Newidiadau i'r amserlen i wella dibynadwyedd, gan gyrraedd yn gynharach yng Nghaerdydd ar ddydd Sul. Cyflwyno taith ychwanegol ar wasanaeth X32 o'r Maerdy am 06.58 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gwasanaeth 137 Y Porth - Coronation Terrace - Bydd y teithiau dwyffordd am 11.05 a 13.05 o'r Porth ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn cael eu tynnu'n ôl oherwydd prinder galw.
Gwasanaeth 152 Tonypandy - Hendreforgan. Amserlen newydd a newid y llwybr ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gyda phob bws yn parhau i wasanaethu Oak Street, Garden City. Bydd teithiau'n gadael am 07.43 o Gae-glas, Penrhiw-fer ac o Donypandy am 09.30, 11.15, 13.15, 14.45 a 16.15. Fydd teithiau am 07.43, 09.30 a 14.45 ddim yn gwasanaethu Ystad Capel na Mill Street Tonyrefail. Bydd teithiau o Oak Street yn gadael am 07.55, 08.58, 11.58, 13.58 15.13 a 16.58. Fydd teithiau am 08.58, 15.13 a 16.58 ddim yn gwasanaethu Mill Street nac Ystad Capel.
Gwasanaeth 153 Tonypandy - Y Gilfach-goch trwy Benrhiw-fer - Mae'r amseroedd gadael y Gilfach-goch wedi'u hail-amseru i wella cysylltedd.
Gwasanaeth 170 Cwm Clydach - Blaenllechau trwy Donypandy - Taith Ychwanegol o Gwm Clydach i Donypandy ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn am 18.40.
Gwasanaeth 172 Aberdâr i Borthcawl -mân addasiadau i'r amserlen i wella dibynadwyedd a chysylltiadau â llwybrau eraill. Fydd Garden City (Tonyrefail) ddim yn cael ei wasanaethu mwyach oherwydd problemau parhaus gyda cheir wedi'u parcio. Bydd Gwasanaeth 152 yn cael ei newid i ddarparu cysylltiad o Garden City â Thonyrefail a Thonypandy.
Gwasanaeth 173 Cwm Clydach - Y Porth trwy Donypandy a Dinas (Teithiau Stagecoach) - Mân addasiadau i'r amserlen i wella cysylltiadau â llwybrau eraill. Fydd dim unrhyw newid i'r teithiau bob awr gan Thomas of Rhondda.
Gwasanaeth 175 Y Porth – Cwm Clydach drwy Donypandy a Threalaw (teithiau Stagecoach)- Dileu teithiau dydd Llun i ddydd Sadwrn am 10.40 a 12.40 o Donypandy ac am 11.15 a 13.15 o'r porth. Fydd dim unrhyw newid i'r teithiau bob awr gan Thomas of Rhondda.