Skip to main content

Trafnidiaeth Gymunedol

Ar gyfer amserlenni brys a gwybodaeth frys mewn perthynas â Covid-19;

Oherwydd natur y sefyllfa bresennol sy’n newid yn barhaus wrth ymateb i Covid-19, mae newidiadau sylweddol wedi bod i wasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd. 

Oherwydd nifer cynyddol o achosion o COVID-19, mae Arweinwyr Cynghorau Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'n holl breswylwyr gymryd camau nawr i osgoi'r angen am gyfnod clo ffurfiol yn y dyfodol agos.

Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr roi'r camau gwirfoddol canlynol ar waith, a hynny ar unwaith:

  • Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus at ddibenion hanfodol YN UNIG - mae hyn yn cynnwys teithio i leoliadau addysg, y gwaith, apwyntiadau meddygol hanfodol, mynd i siopa neu fynd i'r archfarchnad;
  • Gweithio gartref dros yr wythnosau nesaf os oes modd gwneud hynny. Mynd ati'n rhagweithiol i geisio cymorth pob cyflogwr i sicrhau bod y rheiny sy'n gallu gweithio gartref yn gwneud hynny;
  • Gwisgo gorchudd wyneb neu fwgwd sydd â thair haen, pan fo hynny'n ddiogel, yn y gwaith, mewn archfarchnadoedd ac mewn mannau cyhoeddus eraill sy dan do neu'n llawn pobl (argymhellir hyn ar gyfer unigolion sy'n 12 oed neu'n hŷn);
  • Peidiwch ag ymweld â chartrefi gofal, oni bai fod hynny ar ymweliad diwedd oes, pan fydd gofyn i chi wisgo cyfarpar diogelu personol llawn.

Dylai’r rheiny sy angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r gwaith, i fynd siopa neu oherwydd rhesymau meddygol wirio gyda’r cwmni teithio cyn teithio

Yn unol â chyngor teithio Llywodraeth Cymru, mae bellach yn orfodol gwisgo gorchudd wyneb 3 haen wrth ddefnyddio'r holl drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys tacsis yng Nghymru, oni bai eich bod o dan 11 oed neu os oes gennych rai cyflyrau meddygol.  Mae modd dod o hyd i restr lawn o eithriadau yma: https://llyw.cymru/y-gofyniad-i-wisgo-gorchudd-wyneb-ar-drafnidiaeth-gyhoeddus-yng-nghymru Er ei bod hi'n bosibl i orchuddion wyneb helpu i ddarparu rhywfaint o reolaeth ar y firws mewn amgylchiadau penodol, dydyn nhw ddim yn disodli'r angen am ymbellhau corfforol, golchi'ch dwylo na defnyddio glanweithydd dwylo yn rheolaidd. 

Os oes angen i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cofiwch aros 2 fetr ar wahân a cheisiwch deithio ar adegau y tu allan i'r oriau brig (rhwng 0900 - 1600).  Byddwch yn effro i'r ffaith fod llai o gapasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus o ganlyniad i fesurau ymbellhau corfforol, a bydd teithio o bosibl yn cymryd mwy o amser na'r arfer.  Felly caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith, yn enwedig os oes angen i chi ddal cysylltiadau.

Mae Traveline Cymru’n gweithio’n galed er mwyn ceisio sicrhau bod y newidiadau yma’n cael eu diweddaru ar eu systemau cyn gynted ag sy’n bosibl. I weld y newidiadau diweddaraf i wasanaethau ar draws Cymru, gwiriwch wefan Traveline Cymru.

Ydych chi angen trafnidiaeth, ond does dim modd i chi ddefnyddio'r gwasanaethau bws lleol yn Rhondda Cynon Taf? Os felly, cysylltwch â'r gweithredwr trafnidiaeth gymunedol yn eich ardal a gofynnwch am gymorth.

Mae trafnidiaeth gymunedol yn cynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws yn bennaf. Mae'r gwasanaeth yma wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer pobl sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl mynd ar fysiau cyffredin, neu ddod oddi arnyn nhw, neu sy'n cael trafferth cyrraedd y safle bysiau agosaf.

I fanteisio ar drafnidiaeth gymunedol, bydd angen i chi drefnu'ch taith ymlaen llaw. Bydd y bws yn dod i'ch cartref ac yn mynd â chi i ble bynnag rydych chi eisiau mynd yn Rhondda Cynon Taf, neu i lefydd penodol eraill mewn ardaloedd eraill.

Gallwch chi drefnu taith ar gyfer mynd i siopa, ar gyfer mynd i apwyntiadau meddygol, ar gyfer ymweliadau cymdeithasol neu ar gyfer unrhyw reswm arall, ond, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl cyn eich taith.

Pan fyddwch chi'n trefnu'ch taith, bydd angen i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad, yn ogystal â rhai manylion eraill am eich anghenion teithio. Mae manylion aelodaeth a chostau yn amrywio o un gweithredwr trafnidiaeth gymunedol i'r llall. Gallwch chi deithio ar eich pen eich hun neu'n rhan o grŵp.

Mae pob bws trafnidiaeth gymunedol ag offer arbennig i'ch helpu chi. Mae ganddyn nhw risiau isel a lifftiau i'w gwneud hi'n haws i chi fynd ar y bws a dod oddi arno. Os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn, bydd y gyrrwr a'r cynorthwy-ydd yn gosod eich cadair olwyn yn ddiogel ar y bws neu'n eich helpu chi i gyrraedd eich sedd, os oes eisiau.

Mae pob aelod o staff ar drafnidiaeth gymunedol wedi'i hyfforddi mewn gweithdrefnau gofal teithwyr ac yn llwyr ymwybodol o anghenion pobl hŷn a phobl anabl. Mae pob aelod o staff yn gyfeillgar iawn, a byddan nhw'n ceisio helpu ar bob adeg.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael gan unrhyw un o'r tri darparwr trafnidiaeth gymunedol isod. Mae hefyd groeso i chi gysylltu â nhw os ydych chi eisiau rhoi help llaw i bobl eraill drwy fod yn yrrwr gwirfoddol, neu os ydych chi eisiau codi arian.

Accessible Caring Transport: 01443 478013

Erbyn hyn, gall trigolion fanteisio ar wasanaeth gwell gan y darparwr trafnidiaeth gymunedol, Accessible Caring Transport (ACT).

Mae'r gwasanaeth bws newydd, ‘Range Rider’, yn hyblyg ac yn teithio o ddrws i ddrws. Cafodd ei ddatblygu yn sgil adborth gan ddefnyddwyr ACT er mwyn eu galluogi nhw i deithio i Ysbyty'r Tywysog Siarl ar gyfer clinigau ac ymweliadau.

Mae'n wasanaeth o ddrws i ddrws sydd yn benodol ar gyfer y rhai sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl mynd ar fysiau, neu ddod oddi arnyn nhw, gan gynnwys pobl ag anawsterau symudedd sy'n ei chael hi'n anodd teithio, neu'r rhai sy'n byw'n bell o'r safle bws agosaf.

Bydd y gwasanaeth ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener 7am–7pm, a dydd Sadwrn, 9.30am–5pm. Bydd ar gael ym mhob rhan o Gwm Cynon a'r ardaloedd cyfagos, megis Ysbyty'r Tywysog Siarl, a chanol trefi Caerffili, Merthyr Tudful, Pontypridd a'r Porth.

Bydd pawb sydd â cherdyn teithio rhatach (tocyn mantais y bysiau) yn cael teithio am ddim. Y gost ar gyfer teithwyr eraill fydd £3.75 i oedolion a £1.50 i blant am bob taith yn yr ardal. Bydd rhaid trefnu'r daith erbyn canol dydd ddiwrnod cyn teithio.

Trafnidiaeth Gymunedol TraVol: 01443 486872

Trafnidiaeth Gymunedol ‘Village & Valleys’: 01443 858462