LMae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd y rhaglen waith barhaus i ddiogelu llwybr Mynydd y Maerdy at y dyfodol yn parhau dros yr haf, gan olygu y bydd angen cau ffordd yr A4233 rhwng Aberdâr a'r Maerdy.
Mae atebion i nifer o Gwestiynau Cyffredin isod, sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r gwaith yn ei olygu, pam fod angen cau'r ffordd, a pham fod y gwaith yn cael ei gyflawni dros yr haf.
Ble a phryd mae'r gwaith/ffordd i'w chau yn digwydd?
Bydd yr A4233 Ffordd Mynydd y Maerdy yn cau rhwng Maes y Graig yn Aberdâr a Heol yr Orsaf yn y Maerdy o ddydd Llun, 4 Gorffennaf, tan ddydd Llun, 5 Medi. Mae lleoliad y gwaith ar ochr y bryn ger y troadau sydyn ar ochr Aberdâr i'r llwybr. Mae llwybr amgen i fodurwyr – ewch ar hyd yr A4233 a’r A4058 i Bontypridd ac ar hyd yr A470 a’r A4059 i Aberdâr – neu i'r gwrthwyneb. Bydd y llwybrau yma wedi'u nodi'n glir ag arwyddion.
Pa waith sy'n cael ei gyflawni'r haf yma?
Mae hyn yn rhan o'r ymdrech barhaus i liniaru materion strwythurol ar ochr y mynydd a achoswyd gan dywydd digynsail Storm Dennis ac achosion eraill o dywydd garw sy'n digwydd bob gaeaf. Bydd rhaglen waith yr haf yma'n cywiro difrod sgwrio sylweddol i ochr y bryn wrth y troadau sydyn ar ochr Aberdâr o'r llwybr. Bydd yn cynnwys angori'r llethr o dan y briffordd yn ogystal â gosod strwythur i gynnal yr wyneb. Bydd angen symud y rhwystr cerbydau ar ochr y ffordd ar gyfer y gwaith yma, gan ddefnyddio systemau arbenigol i gael mynediad i'r llethr.
Pam fod angen i'r ffordd gau?
Mae nodweddion y ffordd a thopograffeg y llwybr mynydd yn peri anhawster o ran lleihau aflonyddwch. Ystyriaeth allweddol arall yw diogelwch y gweithlu a modurwyr. Yn anffodus, mae'r ffordd yn rhy gul i gynnal traffig byw yn ddiogel tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo. Gan fod y rhwystr cerbydau hefyd yn cael ei dynnu i alluogi'r gwaith, fyddai ddim yn ddiogel i gerbydau deithio ar y rhan yma o'r llwybr. Mae gwaith yn cael ei gyflawni dros yr haf pan fydd y ffordd yn debygol o fod yn llai prysur yn ystod y cyfnodau teithio brig, a chan osgoi'r aflonyddwch tebygol i gludiant o'r cartref i'r ysgol.
Pam nad oes modd i'r gwaith ddigwydd yn y nos?
Does dim modd i'r gwaith gael ei gyflawni dros nos gan fod mynediad i'r safle yn anodd iawn yn sgil ei leoliad agored ac uchel. Mae ystyriaethau allweddol eraill yn cynnwys diogelwch y gweithlu, a natur arbenigol y cynllun a fyddai’n ei gwneud yn anodd iawn gwneud cynnydd digonol pe bai’r gwaith yn digwydd gyda’r nos.
Fydd cau'r ffordd yn effeithio ar wasanaethau bysiau lleol?
Bydd Stagecoach yn darparu gwasanaeth diwygiedig ar lwybr 172 (Aberdâr-Porthcawl), gan weithredu'n ddi-stop rhwng gorsafoedd bysiau Aberdâr a Thonypandy trwy Bontypridd. Bydd y gwasanaeth yn gadael y ddwy orsaf fysiau'n gynharach, a bydd y teithiau'n cymryd mwy o amser. Bydd trefniadau o ran tocynnau ar waith er mwyn sicrhau y bydd cwsmeriaid yn parhau i dalu'r pris arferol am y tocyn ar gyfer eu taith.
Bydd NAT Group yn darparu gwasanaeth bws gwennol AM DDIM dydd Llun i ddydd Sul rhwng Maerdy a Thonypandy. Bydd yn teithio trwy ardal Glynrhedynog, Tylorstown, Pen-rhys, Ystrad a Llwynypia i'r ddau gyfeiriad.
Dyma amserlen y gwasanaeth yma
Bydd gwasanaeth diwygiedig 172 a'r bws gwennol yn cwrdd yng Ngorsaf Fysiau Tonypandy, gan sicrhau bod modd i bobl barhau â'u teithiau i Borthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, Tonyrefail, Aberdâr a Merthyr Tudful.
Pam fod gwaith yn cael ei gyflawni'n fwy aml ar y llwybr yma nag ar lwybrau eraill?
Mae ein ffyrdd mynydd serth yn brwydro yn erbyn yr elfennau yn gyson, ac roedd Storm Dennis yn atgof byw o'r anawsterau mae'n rhaid i ffyrdd fel yr A4233 ar Fynydd y Maerdy eu hwynebu. Oni bai am waith cynnal a chadw sylweddol y Cyngor ar Ffordd Mynydd y Maerdy yn ystod y blynyddoedd diwethaf, byddai natur y difrod a gafodd ei achosi gan Storm Dennis wedi cau'r ffordd am gyfnod amhenodol. Er mwyn osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol a allai arwain at gau'r ffordd dros gyfnod hir, bydd y gwaith i sefydlogi'r llethrau a diogelu'r ffordd yn digwydd dros sawl blwyddyn. Mae gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw yn tarfu am gyfnod, ond dyma hefyd sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng bod y ffordd ar gael ac ar agor yn y dyfodol neu beidio.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion unwaith eto am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus yn ystod y gwaith sydd ar ddod ar lwybr Mynydd y Maerdy.