Bydd Stryd Fawr, Llantrisant yn cau er mwyn cynnal gwaith Openreach ddydd Sul 31 Ionawr 2021 drwy'r dydd a thros nos rhwng 7pm a 5am ddydd Llun a dydd Mawrth, 1 a 2 Chwefror 2021. O ganlyniad i hyn, fydd gwasanaeth bws 100 Edwards o Bontypridd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddim yn mynd i Hen Dref Llantrisant.
Mae'r Cyngor, ar y cyd ag Openreach, wedi trefnu bod Edwards Coaches yn darparu bws gwennol i deithio rhwng Sgwâr y Beddau, Yorkdale, Llantrisant a Thonysguboriau, yn unol â'r amserlen sydd wedi'i hatodi.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.