Yn sgil gwaith hanfodol i'r strwythur sy'n cynnal y B4275 ger Rhes yr Afon, bydd y ffordd ar gau a bydd trefniadau bws dros dro ar waith rhwng 21 Gorffennaf a 1 Medi.
Ni fydd modd i wasanaethau Stagecoach 60 a 61 (Aberdâr i Bontypridd, dydd Llun i ddydd Sadwrn) na gwasanaeth 600 Grŵp NAT (Merthyr Tudful i Gaerdydd, dydd Sul) wasanaethu eu llwybrau arferol.
Byddan nhw'n gweithredu yn ôl yr arfer o Aberdâr i Gloc Abercynon, ac yna'n teithio o amgylch y system unffordd yn ôl i'r A4059. Yna bydd y gwasanaethau'n ymuno â'r A470 i Bontypridd. Bydd y llwybr yma hefyd yn cael ei ddilyn i'r gwrthwyneb.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ni fydd yr arosfannau bysiau yn yr Imperial Abercynon, Parc Hen Lofa'r Navigation, na safle Parcio a Theithio yng Ngorsaf Reilffordd Abercynon, yn cael eu gwasanaethu i'r naill gyfeiriad na'r llall. Dylai trigolion sydd am gael mynediad i'r gwasanaeth ddefnyddio'r arosfannau bysiau agosaf ger Cloc Abercynon ac ar Heol yr Orsaf.
Mae modd gweld amserlen ar gyfer gwasanaethau Stagecoach yma