Newidiadau i ddiwrnodau casglu eitemau i’w hailgylchu a gwastraff
Mae casgliadau sydd i fod i ddigwydd ar Ddydd Nadolig neu Ddydd Calan wedi cael eu newid:
- Bydd casgliadau a oedd i fod i ddigwydd ddydd Gwener 25 Rhagfyr 2026 nawr yn digwydd ddydd Sul 27 Rhagfyr 2026.
- Bydd casgliadau a oedd i fod i ddigwydd ddydd Gwener 1 Ionawr 2027 yn digwydd ddydd Sadwrn 2 Ionawr 2027.
Mae'r newidiadau yma'n berthnasol i’r casgliadau canlynol:
- Bagiau ailgylchu clir
- Gwastraff bwyd
- Gwastraff bagiau du
- Gwastraff cewynnau
- Gwastraff anymataliaeth
Bydd pob casgliad arall sydd wedi'i drefnu yn digwydd yn ôl yr arfer.
Newidiadau i oriau agor canolfannau ailgylchu yn y gymuned
Bydd oriau agor ein holl ganolfannau ailgylchu yn y gymuned yn newid ar y dyddiau canlynol:
- Dydd Iau 24 Rhagfyr 2026 - Ar agor o 8.30am tan 3.30pm (cau'n gynnar)
- Dydd Gwener 25 Rhagfyr 2026 - Ar gau
- Dydd Sadwrn 26 Rhagfyr 2026 - Ar gau
- Dydd Sul 27 Rhagfyr 2026 - Ar agor o 8.30am tan 4.30pm
- Dydd Llun 28 Rhagfyr 2026 - Ar agor o 8.30am tan 4.30pm
- Dydd Mawrth 29 Rhagfyr 2026 - Ar agor o 8.30am tan 4.30pm
- Dydd Mercher 30 Rhagfyr 2026 - Ar agor o 8.30am tan 4.30pm
- Dydd Iau 31 Rhagfyr 2026 - Ar agor o 8.30am tan 3.30pm (cau'n gynnar)
- Dydd Gwener 1 Ionawr 2027 - Ar gau
Trefnu casgliad coeden Nadolig
Mae modd trefnu casgliad am ddim ar gyfer eich coeden Nadolig go iawn.
Dydyn ni ddim yn casglu coed sydd wedi'u gwneud o fetel na phlastig. Gallwch chi fynd â'ch coeden ffug i ganolfan ailgylchu yn y gymuned neu drefnu casgliad eitemau mawr.
Byddwn ni'n casglu coed o ddydd Llun 28 Rhagfyr tan ddydd Gwener 29 Ionawr
I drefnu casgliad ar gyfer eich coeden:
- Trefnwch gasgliad
- Tynnwch y goleuadau a'r addurniadau oddi ar eich coeden
- Torrwch goed sy'n dalach na 4 troedfedd yn ddarnau llai
- Rhowch eich coeden yn eich man casglu arferol erbyn 7am ar eich diwrnod casglu
Trefnwch Gasgliad Ar Gyfer Eich Coeden Nadolig