Caiff gwastraff bwyd ei gasglu o ochr y ffordd bob wythnos.
Sut mae'n gweithio
Mae angen i chi ddefnyddio un o'n biniau gwastraff bwyd i fanteisio ar ein casgliadau gwastraff bwyd. Os nad oes gyda chi un, mae modd i chi ofyn am fin gwastraff bwyd am ddim i ddechrau manteisio ar gasgliadau.
Mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn cadw plâu allan o'ch bagiau du, yn helpu i reoli eich lwfans bagiau du, ac yn lleihau nwyon tirlenwi sy'n ddrwg i'n hamgylchedd.
O fewn pythefnos i ofyn am fin gwastraff bwyd, byddwch chi'n derbyn:
- bin bach ar gyfer eich cegin
- rholyn o fagiau gwastraff bwyd i roi yn eich bin bach
- bin mawr y mae modd ei gloi ar gyfer y tu allan
Rydyn ni'n casglu gwastraff bwyd o'ch man casglu bob wythnos.
Defnyddio ein bagiau gwastraff bwyd
Mae ein bagiau gwastraff bwyd wedi'u gwneud o startsh corn, deunydd naturiol sy'n wannach na phlastig. Maen nhw'n bioddiraddio'n naturiol dros amser yn rhan o'r broses ailgylchu bwyd.
Wrth ddefnyddio ein bagiau:
- Peidiwch â storio nifer o roliau o fagiau gan eu bod nhw'n gwanhau dros amser
- Defnyddiwch ddau fag wrth ailgylchu gwastraff bwyd miniog neu fawr – er enghraifft esgyrn cyw iâr
I roi eich gwastraff bwyd allan i'w gasglu:
- Gwnewch gais am fin bwyd
- Gwiriwch eich diwrnod casglu gwastraff bwyd
-
Defnyddiwch fagiau gwastraff bwyd rydyn ni wedi'u darparu neu fagiau o archfarchnadoedd/siopau ar-lein sy'n bodloni safon EN13432
- Leiniwch waelod eich bin gwastraff bwyd bach gyda dalen o bapur cegin i ymestyn oes y bag
- Peidiwch â gorlenwi'ch bagiau
- Pan fydd eich bin gwastraff bwyd cegin yn llawn, tynnwch y bag a chlymwch y top yn dynn
- Rhowch y bag yn eich bin gwastraff bwyd mawr
- Clowch dop y bin i atal anifeiliaid rhag mynd i mewn
- Rhowch eich bin gwastraff bwyd mawr yn eich man casglu arferol erbyn 7am
Gofyn am fin gwastraff bwyd
Gofynnwch am fin gwastraff bwyd i ddechrau manteisio ar y casgliadau wythnosol neu gwnewch gais am fin newydd os oes angen.
Gofyn am fin gwastraff bwyd
Yr hyn gewch chi ei roi yn y bagiau a'r hyn does dim modd i chi ei roi yn y bagiau
Le:
- Ffrwythau a Llysiau
- Cig a Physgod
- Bara ac eitemau becws
- Reis, pasta a ffacbys
- Cynhyrchion llaeth
- Sawsiau
- Esgyrn
- Bagiau te, dail te a choffi
- Grawnfwyd
- Bwyd anifeiliaid
Na:
Os nad oes modd i eitem neu ateb ar y rhestr yma, bwriwch olwg ar ein hadnodd chwilio ailgylchu A-Z.
Casglu mwy o fagiau
Mae modd casglu bagiau gwastraff bwyd o nifer o leoliadau lleol.
Peidiwch â storio gormod o roliau o fagiau gartref. Maen nhw wedi'u gwneud yn fwriadol o ddeunydd bioddiraddadwy a fydd yn gwanhau dros amser ac a all ddod yn fregus erbyn i chi eu defnyddio nhw.
Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu
Efallai y bydd ein criwiau'n rhedeg yn hwyr ac efallai na fyddan nhw'n casglu eich bagiau tan yn ddiweddarach yn y dydd.
Os nad yw eich bagiau wedi cael eu casglu ar eich diwrnod arferol, mae modd i chi roi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu.
Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu