Skip to main content

Cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Cwrs Addysg i Oedolion yn y Gymuned yw'r cyfle delfrydol i ddysgu sgil newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a chael dechrau newydd.

Mae ein tiwtoriaid yn gyfeillgar, yn brofiadol a byddan nhw'n eich croesawu i'n cyrsiau ac yn eich helpu. Mae nifer o'n cyrsiau wedi'u hachredu gan Agored Cymru. Bydd hyn yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch pe baech chi'n dymuno ennill cymwysterau.

Cyrsiau prif ffrwd

Rydyn ni'n cynnal amrywiaeth o gyrsiau sy'n trin a thrafod cynifer o bynciau ag y gallwn ni.

  • Ieithoedd - Iaith Arwyddion, Cymraeg ac ESOL
  • Cyfrifiadura - o Ddechreuwyr i ICDL / defnyddio ffonau symudol a llechi
  • Celfyddydau Creadigol - gan gynnwys Gitâr ac Ysgrifennu Creadigol
  • Hyfforddiant Cyn-Gyflogadwyedd - gan gynnwys Cymorth Cyntaf, Diogelwch Bwyd a Chymorth Cyntaf
  • Hanes - gan gynnwys Hanes Teuluol, Hanes Lleol a Hanes Celf

Camau Dysgu RhCT

Mae'r cyrsiau Camau Dysgu yn rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu. Mae'r cyrsiau'n annog dysgwyr i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, dysgu ar gyflymder priodol a gweithio gyda thiwtoriaid arbenigol. Mae'r cyrsiau'n wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Cymorth Saesneg a Mathemateg

Rydyn ni'n cynnig y cyfle i wella eich sgiliau Digidol, Saesneg a Mathemateg mewn awyrgylch cefnogol gyda thiwtor profiadol a chyfeillgar. Mae cyrsiau'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn a chewch chi ymuno unrhyw bryd.

Efallai y bydd modd i ni ddarparu ein cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd – rhowch wybod i ni os oes gyda chi ddiddordeb mewn cyrsiau cyfrwng Cymraeg pan fyddwch chi'n cofrestru. *

Gallwch gofrestru drwy ymweld

Mae modd dod o hyd i lyfrynnau ym mhob llyfrgell ac adeilad RhCT ledled RhCT

Alternatively paper enrolment forms are also available.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar unrhyw un o’r cyrsiau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01443 570077

Ebost: AddysgOedolion@rctcbc.gov.uk

Dyddiadau Tymor 

TymorDechrauGorffen

Tymor yr Hydref 2024

Dydd Llun, Medi 2 2024

Dydd Gwener, Hydref 25 2024

Hanner Tymor

Dydd Llun, Hydref 28 2024

Dydd Gwener, Tachwedd 1 2024

Tymor yr Hydref 2024

Dydd Llun, Tachwedd 4 2024

Dydd Gwener, Rhagfyr 20 2024

Nadolig 2024

Dydd Llun, Rhagfyr 23 2024

Dydd Gwener, Ionawr 3 2025

Tymor y Gwanwyn 2025

Dydd Llun , Ionawr 6 2025

Dydd Gwener, Chwefror 21 2025

Hanner Tymor

Dydd Llun , Chwefror 24 2025

Dydd Gwener, Chwefror 28 2025

Tymor y Gwanwyn 2025

Dydd Llun , Mawrth 3 2025

Dydd Gwener, Ebrill 11 2025

Pasg 2025

Dydd Llun, Ebrill 14 2025

Dydd Gwener, Ebrill 25 2025

Tymor yr Haf 2025

Dydd Llun, Ebrill 28 2025

Dydd Gwener, Mai 23 2025

Hanner Tymor

Dydd Llun, Mai 26 2025

Dydd Gwener, Mai 30 2025

Tymor yr Haf 2025

Dydd Llun, June 2 2025

Dydd Llun, July 21 2025