
VE Day Display
80 MLYNEDD ERS DIWRNOD BUDDUGOLIAETH YN EWROP
Stori Trevor
8 Mlynedd yn ôl i fis Mehefin eleni, fe gollais fy ngwraig i Ganser. Roedd y 10 mlynedd flaenorol wedi bod yn heriol gyda phroblemau iechyd gan sawl aelod o'r teulu. Roedd ffrind agos iawn i mi a'r teulu wedi colli ei dad, ac fe helpodd fi. Roeddwn i wedi dioddef anaf ymennydd, a minnau'n gyn-filwr, wedi derbyn gwahoddiad am seibiant am wythnos gan Y Lleng Brydeinig Frenhinol i Weston Super Mare, ac roedd modd i mi fynd â chynhaliwr gyda fi. Fe wnaethon ni gael gofal gwych mewn sefydliad pedair seren. Pan oedden ni yno, fe wnaethon ni gael cyfle i weld sawl safle, gyda nifer ohonyn nhw'n rhai milwrol. Roedd hyn wedi sbarduno diddordeb mawr, a dros y blynyddoedd canlynol, bûm yn ymweld â sawl lle ac arddangosfeydd milwrol, yn enwedig mewn ardaloedd rwyf wedi gwasanaethu ynddyn nhw.
A minnau wedi gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol, mae'r safleoedd yna yn bwysig iawn i mi ac rwyf wedi casglu creiriau mewn perthynas â'r rhyfeloedd ac awyrennau hefyd. Mae sawl maes awyr ac amgueddfa yn arddangos creiriau milwrol yn ardal Swydd Lincoln. Roeddwn i'n ffodus iawn i gael treulio diwrnod gyda 'Lancaster Bomber' ac wedi cael mynd i safle'r gynnwyr ôl lle'r oedd fy Wncl Glen yn ystod y rhyfel. Roedd yn wych cael mynd i mewn iddo, ond rhaid bod yn ddewr. Roeddwn i wedi cael profi hediad rhithiol dros Aber Afon Hymbr yn yr Awyren, oedd yn anodd a phrysur, ond wnes i fwynhau. Mae ymweld â'r lleoedd yma wedi dangos i mi pa mor anodd oedd pethau a'r anawsterau oedd aelodau'r lluoedd wedi'u hwynebu dros flynyddoedd y rhyfel.
Pan oeddwn i'n 70 oed, roeddwn i wedi trefnu i fynd mewn 'Spitfire' dros Ynys Wyth a'r Needles, gan reoli'r awyren am 15 munud. Roedd yn brofiad anhygoel, fyddaf i byth yn ei anghofio.
Dros yr holl amser yma, roedd fy nghasgliad o eitemau ac atgofion yn tyfu a gwnaeth rhywbeth dynnu fy sylw yn y Dosbarth Hanes rwy'n ei fynychu bob dydd Iau yng Ngarth Olwg. Pan oeddwn i'n siarad â Lisa Powell, fe wnaethon ni sylwi bod Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ar ddiwrnod ein gwers, a byddai'n syniad arloesol cynnal rhywbeth ar ran y dosbarth. Ac felly, penderfynwyd y byddwn i'n arddangos fy nghasgliad oedd bryd hynny mewn cypyrddau. Wedi tipyn o gynllunio milwrol er mwyn adrodd hanes y cyfnod a'i gyflwyno i'r cyhoedd, fe wnaethon ni fwrw ymlaen. Roedd y casgliad yn cael ei harddangos dros wal gefn cyfan y dosbarth gyda phedwar bwrdd. Roedd yn ddiwrnod gwych gyda nifer yn galw heibio i weld yr arddangosfa. Roeddwn i'n trafod yr arddangosfa gyda'r bobl oedd yn ymweld ac roedden nhw'n fy niolch am yr arddangosfa, ond hefyd am wasanaethu fy ngwlad. Roedd hyn yn gwneud i mi deimlo'n ddiymhongar ond hefyd yn falch.
Roeddwn i'n falch iawn gyda'r canlyniadau a'r ymdrech wnes i ei roi i gynnal yr arddangosfa ac rwy'n teimlo'n falch iawn. Roeddwn i hefyd wedi llunio cerdd, ac mi ddarllenais y gerdd ar y diwrnod. Cafodd ei harddangos hefyd yn y dderbynfa yng Ngarth Olwg. Mi dreuliais y prynhawn mewn achlysur arall lle'r oedd pobl yn gwisgo dillad y cyfnod, roedd rhai o ferched y tir yno, ond mae hyn yn stori ar gyfer diwrnod arall.
Diwrnod llwyddiannus a chofiadwy
Wedi ei bostio ar 18/06/2025