Mae ein dysgwr hynaf bellach yn 102 oed - Mae hi'n dilyn dosbarthiadau TG er mwyn ceisio "dal i fyny" ar dechnoleg y collodd hi pan oedd yn athrawes ysgol gynradd.
Dywedodd Margaret Griffiths, o Ynys-hir, Cwm Rhondda, iddi gofrestru yn y dosbarthiadau wythnosol i gadw'i hymennydd yn weithgar.
Dywedodd y cyn-brifathrawes fod pawb yn ei dosbarth o ddysgwyr sy'n oedolion yn ceisio "symud gyda'r oes."
Dywedodd ei bod yn bwriadu "parhau i wneud yr hyn rydw i'n ei wneud cyhyd ag y gallaf".
Wedi ei bostio ar 29/07/2024