Mae gan rieni yn Rhondda Cynon Taf yr hawl gyfreithiol i addysgu eu plant yn y cartref, yn unol â'r hyn sydd wedi'i amlinellu yn Adran 7 o Ddeddf Addysg 1996. Mae’r ddeddf yma'n ei gwneud hi'n ofynnol i rieni sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg lawn amser effeithlon ac addas o ran ei oedran, gallu, dawn ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.
Nod yr awdurdod lleol yw meithrin cydberthnasau cadarnhaol â'r rheiny sy'n addysgu plant yn y cartref er mwyn cefnogi addysg a lles y plant.
Beth yw Addysg Ddewisol yn y Cartref?
Mae Addysg Ddewisol yn y Cartref yn digwydd pan fydd rhieni'n dewis cymryd cyfrifoldeb am addysg eu plentyn y tu allan i'r system ysgol.
Mae'n rhaid i blentyn gael ei addysgu o'r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump oed tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn ysgol pan fo'r plentyn yn troi'n 16 oed. Os byddwch chi'n penderfynu addysgu eich plentyn yn y cartref, eich cyfrifoldeb chi fydd talu am yr holl gostau cysylltiedig, gan gynnwys adnoddau addysgol a ffioedd arholiadau ar gyfer unrhyw arholiadau cyhoeddus.
Dechrau Darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref
Os yw'ch plentyn wedi'i gofrestru yn yr ysgol ar hyn o bryd, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n trafod eich penderfyniad gyda'r ysgol ac un o swyddogion Mynychu'r ysgol a Lles y Cyngor, fel bod modd ystyried unrhyw gymorth posibl cyn dadgofrestru'ch plentyn. Os byddwch chi'n dewis bwrw ymlaen â'r dadgofrestru, rhaid i chi gyflwyno cais ysgrifenedig i bennaeth yr ysgol, gan nodi'r dyddiad yr hoffech chi dynnu eich plentyn oddi ar gofrestr yr ysgol.
Os dydych chi ddim wedi cofrestru'ch plentyn mewn ysgol yn y gorffennol, neu os ydych chi wedi symud i'r ardal yn ddiweddar, dylech chi gysylltu'n uniongyrchol â'r awdurdod lleol i nodi eich bod chi'n bwriadu addysgu yn y cartref. I wneud hyn, e-bostiwch: EHE@RCTCBC.GOV.UK.
Cymorth i Deuluoedd sy'n darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref
Pan fydd Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf yn derbyn hysbysiad y bydd plentyn yn cael ei addysgu yn y cartref, bydd ein swyddogion ni'n ceisio cysylltu â'r rhieni o fewn 10 diwrnod gwaith. Dylai'r rhiant ddisgwyl derbyn e-bost croeso cychwynnol.
Er nad yw'r awdurdod lleol yn darparu addysg, rydyn ni'n cynnig ymweliadau cychwynnol a blynyddol i sicrhau bod addysg eich plentyn yn bodloni'r gofynion cyfreithiol. Rydyn ni'n rhannu adnoddau, cyngor, gwybodaeth am achlysuron a chyfleoedd cyfoethogi o bryd i'w gilydd.
Mae Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf yn cydnabod nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar rieni i gwrdd â'r awdurdod lleol, ac mae modd iddyn nhw wrthod dod i gyfarfod pe hoffen nhw wneud hynny. Serch hynny, bydd angen i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod y plentyn yn cael addysg addas.
Rhaid i rieni dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sicrhau bod y ddarpariaeth Addysg Ddewisol yn y Cartref yn parhau i ddiwallu anghenion eu plentyn. Mae angen caniatâd yr Awdurdod Lleol ar rieni cyn iddyn nhw ddadgofrestru unrhyw blant sy'n mynychu ysgolion arbennig.
Yr Addysg a Ddarperir
Pan fyddwn ni'n arfarnu addasrwydd addysg yn y cartref, mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod bod modd defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgol. Efallai y bydd hi'n well gan rai rhieni ddefnyddio dull strwythuredig, ffurfiol o addysgu, tra bydd eraill yn dewis dull mwy hyblyg sy'n cael ei arwain gan ddiddordebau'r plentyn, ac sydd wedi'i deilwra i'w anghenion a'i ddyheadau.
Dydy Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf ddim yn mynnu bod rhieni yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, yn cadw at amserlen ffurfiol, nac yn efelychu trefn arferol yr ysgolion o ran oriau, dyddiau na thymhorau penodol. Rydyn ni'n parchu hawliau rhieni i ddewis dull addysgol sy'n cefnogi datblygiad a photensial eu plentyn yn y ffordd orau. Er does dim angen i addysg gydymffurfio â fformat traddodiadol gwersi neu amserlenni, mae’n fuddiol i rieni amlinellu eu nodau hirdymor a’r strategaethau y byddan nhw'n eu defnyddio i gyflawni'r rhain.
Nodweddion a awgrymir ar gyfer darparu addysg addas ac effeithlon
Byddai addysg addas yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sgiliau rhifedd, llythrennedd ac iaith, sy'n addas i oedran, gallu a dawn y plentyn yn ogystal ag unrhyw ADY sydd gan y plentyn. Nid mater o ddysgu academaidd yn unig yw darparu addysg addas - dylai hefyd gynnwys cyfleoedd i gymdeithasu. Dylech chi sicrhau bod y plentyn yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ystod gweddol eang o brofiadau dysgu, gan gynnwys lefel briodol o weithgareddau corfforol a chwarae, a’r cyfle i ryngweithio â phlant eraill, yn ogystal ag oedolion.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Os ydych chi o'r farn bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol, mae modd i chi drafod hyn gyda Charfan Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegol yr awdurdod lleol. E-bostiwch GWEINYDDUADY@RCTCBC.GOV.UK.
Diogelu a Monitro
Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i sicrhau bod plant yn cael addysg addas, yn ogystal â chymryd camau gweithredu os bydd unrhyw bryderon yn codi o ran diogelu. Dydy penderfyniad rhiant i addysgu plentyn yn y cartref ddim yn codi pryderon o ran lles yn awtomatig.
Rydyn ni'n annog rhieni i roi gwybod i'r Gwasanaeth Addysg Ddewisol yn y Cartref am unrhyw newidiadau yng nghyfeiriad y plentyn fel bod modd i ni ddiweddaru ein cofnodion ac atal y plentyn rhag cael ei gofrestru'n un sydd ar goll. I wneud hyn, e-bostiwch: EHE@RCTCBC.GOV.UK.
Addysg Hyblyg
Mae addysg hyblyg yn drefniant lle mae plentyn yn mynychu’r ysgol ar sail rhan amser ac yn cael ei addysgu yn y cartref am weddill yr wythnos. Mae hyn yn wahanol i Addysg Ddewisol yn y Cartref ac mae angen cymeradwyaeth y pennaeth cyn rhoi'r trefniadau yma ar waith. Mae addysg hyblyg yn ffurf ddilys ar addysg llawn amser, ond does gan bawb ddim hawl awtomatig iddo.
Achosion lle Tybir bod yr Addysg yn Anaddas
Os yw’r Awdurdod Lleol o'r farn nad yw addysg addas yn cael ei darparu, byddwn ni'n gweithio gyda theuluoedd i fynd i’r afael â phryderon. Mae modd i bryderon parhaus arwain at Orchymyn Mynychu’r Ysgol (SAO), sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i’r plentyn ddychwelyd i’r ysgol.
Ailgofrestru yn yr Ysgol
Mae modd i rieni sy'n dymuno ailgofrestru eu plentyn yn yr ysgol ofyn am ffurflen gofrestru drwy e-bostio derbyndisgyblion@rctcbc.gov.uk
Sut i gysylltu â ni
Os ydych chi'n ystyried Addysg Ddewisol yn y Cartref neu'n awyddus i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Addysg Ddewisol yn y Cartref Rhondda Cynon Taf drwy e-bostio EHE@RCTCBC.GOV.UK neu ffonio 01685 652526.
Dogfennau a Dolenni Defnyddiol:
- Canllawiau Addysg Ddewisol yn y Cartref Llywodraeth Cymru
- Llawlyfr Addysgwyr yn y Cartref Llywodraeth Cymru
- Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref Rhondda Cynon Taf
- Mae SNAP Cymru (Hafan - Snap Cymru) yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol rhad ac am ddim i deuluoedd, fel bod modd helpu i gynnig yr addysg gywir i blant a phobl ifainc sydd â phob math o anghenion addysgol arbennig (AAA)/anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau.