Skip to main content

Speech, Language and Communication needs including Autism

 

Y Garfan Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (gan gynnwys Awtistiaeth)

Mae aelodau'r Garfan Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLCN) (gan gynnwys Awtistiaeth) yn grŵp o athrawon â chryn sgiliau a phrofiad. Mae'r garfan yn rhan o Wasanaeth Cynnal Dysgu Rhondda Cynon Taf. 

 Mae'r garfan o athrawon yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Rhondda Cynon Taf er mwyn bod o gymorth i ddisgyblion o ran:

  • Anawsterau lleferydd ac/neu iaith
  • Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistiaeth, boed diagnosis wedi'i roi neu ddim

 Gall y garfan SLCN gynnig cymorth i ysgolion ar gyfer disgyblion unigol, grwpiau o ddisgyblion neu'r ysgol gyfan.  Mae ysgolion yn cyrchu'r cymorth drwy broses atgyfeirio; mae atgyfeiriadau newydd yn cael eu trafod yn wythnosol.  Gall cyngor, cymorth ac arweiniad gael eu rhoi yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

 Ynghylch Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

Mae iaith, lleferydd a chyfathrebu'n sail i bopeth rydyn ni'n ei wneud – rhoi gwybod beth yw'n hanghenion ein hunain, cyfathrebu'r hyn rydyn ni'n ei hoffi a ddim, ymwneud ag eraill a meithrin perthnasoedd.

Yn aml, rydyn ni'n cymryd y sgiliau yma'n ganiataol, ond mae nifer o blant yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu. Mae gyda nhw anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu neu ‘SLCN’.

  • Lleferydd –  sut rydyn ni'n ynganu synau a'u cyfuno i ddweud geiriau
  • Iaith –  geiriau a sut mae geiriau'n cael eu cyfuno i greu brawddegau i ni eu deall, a chynllunio'r hyn rydyn ni am ei ddweud
  • Cyfathrebu – sut rydyn ni'n defnyddio iaith i ymwneud â phobl

 Anghenion plentyn sydd ag anghenion lleferydd/iaith/cyfathrebu:

  • Efallai y byddan nhw'n wynebu anawsterau wrth siarad 
  • Efallai y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd dweud geiriau neu frawddegau
  • Efallai na fyddan nhw'n deall geiriau sy'n cael eu defnyddio, neu gyfarwyddiadau maen nhw'n eu clywed
  • Efallai y byddan nhw'n wynebu anawsterau o ran gwybod sut mae siarad ag eraill mewn sgwrs, a sut mae gwrando arnyn nhw hefyd

 

Efallai y bydd plant yn wynebu rhai o'r anawsterau yma, neu'r cyfan ohonyn nhw; mae pawb yn wahanol.

 Mae lleferydd, iaith a chyfathrebu'n hanfodol ar gyfer darllen a dysgu yn yr ysgol, ar gyfer cymdeithasu a gwneud ffrindiau, ac ar gyfer deall emosiynau neu deimladau a'u rheoli.  Mae'r enw 'anhawster cudd' hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer SLCN. Mae nifer o blant SLCN yn edrych yn union fel plant eraill a gallan nhw fod yr un mor ddeallus yn union ag eraill. Mae hyn yn golygu y gallai pobl, yn hytrach na gweld anawsterau cyfathrebu'r plant, weld y plant yn ei chael hi'n anodd darllen, yn dangos ymddygiad gwael, neu'n wynebu anawsterau wrth ddysgu neu gymdeithasu ag eraill. Gallai rhai plant fynd i'w cragen, neu fynd yn ynysig. Yn aml mae eu hanghenion yn cael eu camddeall, eu camddiagnosio neu'n cael eu methu'n gyfan gwbl.

 

 Sut y gall yr ysgol helpu fy mhlentyn?

Mae pob plentyn yn cael ei sgrinio pan fyddan nhw'n dechrau yn yr ysgol, er mwyn canfod a oes gyda nhw anghenion o ran lleferydd, iaith neu gyfathrebu.  Mae gofyn i ysgolion fod yn amgylcheddau sy'n llefydd braf i blant gyfathrebu ynddyn nhw, ymhlith rhai o'r ystyriaethau sy'n ymwneud â hyn mae ystafelloedd dosbarth sydd:

  • ag adnoddau sy'n addas ar gyfer cyfnod datblygiad y plant
  • yn hyrwyddo rhyddid plant i gyrchu adnoddau a llyfrau 
  • yn heddychlon yn weledol felly ac yn dwt
  • wedi'u labelu'n glir, ag adnoddau ar lefel llygad y plant fel y gallan nhw gael gafael ar yr hyn maen nhw ei eisiau
  • yn galluogi plant i ymwneud ag amrywiol gyfleoedd cyfathrebu 
  • yn llefydd â chymorthyddion gweledol i helpu plant i ddeall strwythur a threfn y diwrnod
  • ag ardaloedd penodol ar gyfer gweithgareddau penodol
  • â threfn arferol glir
  • yn gymorth yn weithredol felly i ddisgyblion symud o un gweithgaredd i'r nesaf

 Yn ôl amcangyfrif mae 5% o blant yn dechrau yn yr ysgol ag anhawster lleferydd, iaith neu gyfathrebu.  Efallai y bydd gyda rhai plant anghenion mwy dwys neu gymhleth nag eraill, ac mae'n bosib y bydd yr ysgol yn eu hatgyfeirio i'r Gwasnaeth Cynnal Addysg i gael cyngor a chymorth ynghylch sut mae diwallu anghenion y plentyn orau.  Efallai hefyd y bydd gofyn atgyfeirio'r plentyn at therapydd lleferydd ac iaith; mae'r therapydd wedi'i hyfforddi i asesu plant sy'n wynebu anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu penodol, a rhoi cymorth iddyn nhw, er mwyn eu galluogi i gyfathrebu hyd eithaf eu gallu. 

Dylai plant, pobl ifainc neu rieni a gwarcheidwaid siarad â'r ysgol yn y lle cyntaf os oes gyda nhw unrhyw gwestiynau ynghylch sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu’r disgybl.

Bydd plant a phobl ifainc yn cael cymorth mewn amrywiol ffyrdd yn unol â'u hanghenion yn y dosbarth. Efallai y bydd arnyn nhw angen gweithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwywr addysgu a fydd yn helpu i fod yn gymorth o ran eu hanghenion neu i nodi eu hangen.

 

 Ffyrdd o helpu eich plentyn i wrando

  • Gwnewch hi'n haws i'ch plentyn eich clywed drwy ddiffodd sŵn cefndirol.
  • Ceisiwch fodelu gwrando da! Trowch atyn nhw ac edrychwch arnyn nhw. Rhowch eich sylw llawn i'ch plentyn.
  • Pan fyddwch chi'n siarad, helpwch eich plentyn i ganolbwyntio drwy ddefnyddio ei enw ac annog y plentyn i edrych arnoch chi.
  • Defnyddiwch eiriau syml a brawddegau byrion y gall eich plentyn eu deall a'u cofio.
  • Arafwch eich lleferydd eich hun rhyw gymaint.
  • Gofynnwch nifer lai o gwestiynau. Mae hyn yn eich helpu chi i rannu'r siarad.
  • Oedwch er mwyn rhoi digon o amser i'r plentyn brosesu'r hyn rydych chi wedi'i ddweud a'i ystyried.
  • Gall fod yn ddefnyddiol ailadrodd yr hyn rydych chi'n ei ddweud i roi cyfle arall i'ch plentyn ddeall eich geiriau.
  • Gwiriwch fod eich plentyn wedi deall drwy arsylwi ar yr hyn maen nhw'n ei wneud, weithiau bydd plentyn yn gwrando'n astud ond yn ei chael hi'n anodd deall y neges o hyd.
  • Canmolwch wrando da hyd yn oed os oedd am amser byr.

 Ffyrdd o helpu'ch plentyn i roi geiriau ynghyd i greu brawddegau

  • Rhowch gyfle i'ch plentyn fod yn rhan o sgyrsiau!
  • Yn gyffredinol, ceisiwch beidio â chywiro eich plentyn, osgowch orffen eu brawddegau drostyn nhw, osgowch ofyn nifer o gwestiynau’r un pryd ac osgowch ofyn iddyn nhw ailadrodd yr hyn maen nhw wedi'i ddeud.
  • Anogwch eich plentyn gan dderbyn yr hyn mae'ch plentyn yn ei ddweud hyd yn oed pan na fyddwch yn sicr beth sydd dan sylw ganddo.
  • Ailadroddwch frawddeg y plentyn yn ôl iddo'n gywir fel y gall glywed enghraifft neu fodel da.
  • Siaradwch am bethau mewn sefyllfaoedd go iawn ac ynghylch pethau y gallai'ch plentyn fod â diddordeb ynddyn nhw.
  • Helpwch eich plentyn i roi trefn ar ei feddyliau a'i syniadau yn y fan a'r lle.
  • Gall hyn gael ei ymestyn hefyd at gofio beth sydd wedi digwydd ac ail-adrodd hynny.
  • Yn hytrach na gofyn gormod o gwestiynau, cynigiwch syniad a rhannwch y siarad.
  • Bydd ail-adrodd brawddeg fer yn dangos i'ch plentyn sut mae dweud hanes yr hyn sydd wedi digwydd, bydd yn eu helpu gyda dweud straeon ac ar gyfer plant hŷn, bydd yn eu helpu ag ysgrifennu straeon.
  • Siaradwch â'ch plentyn ynghylch beth mae gofyn ei wneud pan fydd yn ei chael hi'n anodd esbonio rhywbeth.

 Ffyrdd o helpu'ch plentyn i ddeall yr hyn rydych chi'n ei ddweud.

  • Gwnewch wrando'n fwy rhwydd drwy leihau synau cefndirol neu ganfod cornel dawel i sgwrsio ynddi.
  • Defnyddiwch enw'ch plentyn a'i annog i edrych arnoch chi.
  • Arafwch eich lleferydd rhyw gymaint.
  • Defnyddiwch symudiad a phwyntio i ychwanegu cliwiau gweledol.
  • Defnyddiwch seibiau hwy pan fyddwch chi'n siarad i roi digon o amser i'ch plentyn brosesu'r hyn rydych chi wedi'i ddweud a'i ystyried.
  • Osgowch ddefnyddio 'cyn' ac 'ar ôl'. Gall y geiriau yma ddrysu plentyn gan y gallan nhw newid trefn cyfarwyddyd heb i drefn y geiriau yn y frawddeg gael eu newid.
  • Nodwch eiriau newydd neu rai mwy cymhleth. Esboniwch beth mae geiriau abstract yn eu golygu.
  • Gwnewch gysylltiadau rhwng geiriau newydd a syniadau mae'ch plentyn yn eu deall yn barod.
  • Canmolwch eich plentyn am ofyn neu wirio beth mae gair yn ei olygu.
  • Gwiriwch fod eich plentyn wedi deall cyfarwyddyd drwy arsylwi ar yr hyn maen nhw'n ei wneud neu ofyn iddyn nhw ailadrodd yn ôl i chi, yn eu geiriau eu hunain, beth mae gofyn iddyn nhw ei wneud.
  • Gwyliwch hoff raglen deledu gyda'ch gilydd. Siaradwch am beth ddigwyddodd ac unrhyw eiriau neu fynegiant sy'n cael eu defnyddio y gallai bod gofyn eu hesbonio. Gallwch chi wneud sylwadau yn hytrach na gofyn cwestiynau.

 Ffyrdd o helpu'ch plentyn ymwneud ag eraill

  • Anogwch edrych a gwrando
  • Anogwch gymryd tro ac ymarfer hyn.
  • Anogwch ystod o weithgareddau chwarae.
  • Anogwch eich plentyn i roi geiriau ynghyd i'w helpu i gymryd rhan mewn sgyrsiau a siarad gyda ffrindiau.
  • Crëwch gyfleoedd i sgwrsio.
  • Osgowch ofyn nifer o gwestiynau un ar ôl y llall.
  • Rhowch eich sylw'n gyfan gwbl i'ch plentyn.
  • Gadewch i'ch plentyn ddewis beth y gallwch chi ei fwynhau gyda'ch gilydd.
  • Rhowch lawer o ganmoliaeth.
  • Anogwch lawer o gyfleoedd i chwarae gyda ffrind ac yna'n raddol gyda grŵp bychan o ffrindiau, gan fod yn gymorth o ran cyd-chwarae os oes angen.
  • Tynnwch ddarlun syml gyda'ch gilydd o sefyllfa gymdeithasol.  Siaradwch am beth mae pob cymeriad yn ei wneud a sut maen nhw'n teimlo. Siaradwch am beth allai'r cymeriad ei wneud nesaf / neu tynnwch lun hyn.

 

Gallai'r gwefannau / dogfennau canlynol fod yn ddefnyddiol o ran gwybodaeth bellach.

 

 Ynghylch Awtistiaeth

Mae awtistiaeth (neu anhwylder y sbectrwm awtistiaeth) (ASD) yn anhwylder datblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar y ffordd mae pobl yn cyfathrebu gyda phobl eraill ac yn ymwneud â'r byd o'u cwmpas.  Mae gyda mwy nag un o blith bob 100 plentyn anhwylder y sbectrwm awtistiaeth, mae hyn yn golygu bod plant ag ASD ym mhob ysgol, boed hynny wedi'i ddiagnosio neu ddim. 

 

Gall ASD effeithio ar bob plentyn mewn ffordd wahanol.

  • Cyfathrebu cymdeithasol – cyfathrebu â geiriau, a heb eiriau fel symudiadau, tôn y llais, mynegiant wyneb
  • Ymwneud cymdeithasol –  anawsterau'n deall rheolau cymdeithasol, ymddygiad a pherthnasoedd.
  • Dychymyg cymdeithasol – anawsterau'n gweld pethau o safbwynt rhywun arall, meddwl mewn ffordd diwyro (rigid), anhawster cynllunio newid neu ymdopi â hynny
  • Materion synhwyraidd –  ymatebion anarferol i synau, arogleuon, cyffyrddiad, blas a mewnbwn gweledol
  • Ymddygiadau ailadroddus neu obsesiynol a diddordebau hynod ddwfn

 

Mae hyn yn golygu y gallai'r rhan fwyaf o blant sydd ag ASD:

  • ei chael hi'n anodd gwneud synnwyr o ddilyniannau ac achlysuron
  • fod yn ymwneud â gweithgareddau ailadroddus
  • deimlo dan straen os bydd trefn arferol yn cael ei newid
  • ddweud bod rhaid i eraill ddilyn trefn arferol
  • fod yn mwynhau i bethau fod yn yr un fath, yn hytrach na newid, ac y byddan nhw'n ymwrthod â phrofiadau newydd
  • ei chael hi'n anodd deall beth mae pobl eraill yn mynd i'w wneud, a methu gwneud synnwyr o pam fod pobl eraill yn gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud
  • ei chael hi'n anodd deall sut y gallai ei hymddygiad effeithio ar eraill, ac efallai na fyddan nhw'n deall hierarchaeth gymdeithasol
  • yn cael chware ar sail y dychymyg yn anodd, felly hefyd cogio bach a chreadigrwydd
  • ei chael hi'n anodd gwneud 'dewisiadau rhydd'
  • yn talu sylw craff i fanylion a'i chael hi'n anodd gweld y darlun ehangach

 

 Sut y bydd yr ysgol yn helpu fy mhlentyn?

Mae bod o gymorth i'ch plentyn o ran anawsterau cyfathrebu cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth yn cael ei wneud drwy roi ystyriaeth i brofiadau plant a thrwy wneud newidiadau syml. Dylai'r isod fod yn rhan o ymarfer yr ysgol:

  • Amgylchedd iaith gyfoethog sy'n annog dysgu iaith
  • Iaith glir a phenodol sy'n cael ei hatgyfnerthu gan ysgogiadau gweledol
  • Trefn arferol reolaidd sy'n cael ei hesbonio i'r plentyn gan ddilyn fformat gweledol
  • Dylai newidiadau ddigwydd mor anaml â phosib
  • Cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau mewn ffyrdd gwahanol
  • Modelu sgiliau cymdeithasol, ac addysgu ynghylch y rhain gan gynnwys strategaethau ‘Siaradam’
  • Profiadau dysgu amlsynhwyraidd ac ystyriaeth i wahaniaethau synhwyraidd
  • Addasu'r amgylchedd (conditions) ac arddull addysgu yn unol ag anghenion penodol disgyblion
  • Elklan, WellComm, Language Link neu strategaethau lleferydd ac iaith eraill
  • Cyfleoedd i weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu a fydd yn gymorth o ran anghenion ac yn helpu i nodi anghenion
  • Sgrinio cynnydd a'i fonitro
  • Trafod â rheini a gwarcheidwaid i gael gafael ar gymaint o wybodaeth â phosib, a defnyddio'r wybodaeth yma i fod yn sail ar gyfer cynllunio ac addysgu
  • Ymwybyddiaeth ynghylch plant sy'n meddwl mewn ffordd 'wahanol' ac archwilio cyfleoedd sy'n eu galluogi nhw i lwyddo          

 

 Sut y gallaf i helpu fy mhlentyn?

  • Crëwch fan sy'n canolbwyntio ar y plentyn
  • Ewch lawr i lefel eich plentyn
  • Ymunwch â'r gweithgaredd mae'ch plentyn wedi'i ddewis
  • Dechreuwch â'r hyn mae'ch plentyn yn hoffi ei wneud
  • Chwaraewch gyda theganau a defnyddiwch eich dychymyg
  • Peidiwch â gorlwytho ystafell / ardaloedd eich plentyn â gormodedd o deganau
  • Rhowch lawer o sylw, canmoliaeth ac anogaeth
  • Mwynhewch chwarae a chael hwyl gyda'ch plentyn!

Gallai'r gwefannau canlynol fod yn ddefnyddiol o ran cael gwybodaeth bellach: