Mae gan ysgolion arlwy o ddulliau cymorth bugeiliol i hyrwyddo lles disgyblion.
Os oes gennych chi blentyn/plant y mae angen cymorth lles arnyn nhw, neu os ydych chi'n ddisgybl ac mae angen cymorth arnoch chi, trafodwch â'ch ysgol i gyfathrebu eich pryderon fel bod modd cynnig cymorth amserol i atal rhagor o broblemau rhag datblygu.
Bydd cymorth sylfaenol neu ymyraethau neu ddulliau penodol gan gynnwys PERMA, Thrive, Cynorthwy-ydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol ac ati yn ddigon i rai plant a phobl ifainc. Bydd modd i'r ysgol esbonio'n llawn ei dull o gefnogi lles. Efallai bydd angen cymorth cwnsela neu sesiynau gyda Seicolegydd Addysg ar ddisgyblion eraill. Bydd modd i'r ysgol roi cymorth i'r disgyblion yma er mwyn iddyn nhw fanteisio ar y gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael.
Mae gyda ni wasanaethau canolog a gwasanaethau wedi'u comisiynu i gefnogi lles yn RhCT. Mae modd i ysgol eich plentyn eich atgyferio at y gwasanaethau yma ond mae hefyd modd i chi gysylltu â ni am gymorth a chyngor. Mae'r gwasanaethau yma'n cynnwys:
- Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles (cymorth i blant rhwng 5 ac 16 oed pan fo pryderon ynghylch eu presenoldeb neu pan fo problem sy'n ymwneud â lles yn effeithio ar eu haddysg)
Presenoldeballes@rctcbc.gov.uk
01443 744298
- Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (cymorth i blant a phobl ifainc rhwng 11 a 25 oed i fynd i'r afael ag ystod o broblemau sydd wedi’u rhestru ar y wefan isod)
GYCI@rctcbc.gov.uk
https://www.yeps.wales/cy/
- Gwasanaeth Seicoleg Addysg - Llinell gymorth i rieni (mae'r gwasanaeth yma ar gael 2/3 prynhawn yr wythnos ac yn gyfle i rieni drafod unrhyw bryderon ynghylch lles ac/neu anghenion dysgu eu plant)
Trefnwch sesiwn ymgynghori 30 munud drwy e-bostio GwasanaethSeicolegAddysg@rctcbc.gov.uk. Nodwch eich rhif ffôn a chrynodeb o'r rhesymau dros drefnu'r sesiwn yn yr e-bost.
- Gwasanaeth Cwnsela Eye to Eye (gwasanaeth cwnsela i blant a phobl ifainc rhwng 7 a 30 oed. Mae modd dod o hyd i feini prawf cymhwysedd manwl ar y wefan isod)
www.eyetoeye.wales
01443 202940
Mae modd i blant a phobl ifainc gyrchu adnoddau cymorth ar y wefan er mwyn cefnogi eu lles ac iechyd meddwl. Yn RhCT mae modd i bobl ifainc gael mynediad at yr adnoddau canlynol:
- Kooth (cymorth iechyd meddwl ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd)
www.kooth.com
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifainc ar wefannau elusennau a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Dyma rai enghreifftiau o'r wybodaeth sydd ar gael:
Rydyn ni, a ninnau'n Gyfadran Addysg, yn canolbwyntio ar ymgysylltu â theuluoedd. Mae'n bosibl bod gan ysgol eich plentyn Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a bydd modd i'r swyddog hwnnw gynnig cymorth ac arweiniad. Pe hoffech chi ragor o gymorth, bwriwch olwg ar wefan y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth i weld gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i wneud cais am gymorth.