Skip to main content

Cwynion Ysgol

Mae pob ysgol yn Rhondda Cynon Taf am i’r disgyblion dan ei gofal lwyddo a bod yn hapus. Maen nhw’n cydnabod y byddwch chi fel rhiant/gwarcheidwad yn chwarae rhan bwysig yn hyn.

Felly, mae ysgolion yn ceisio cynnig cymaint o gyfleoedd â phosibl i’ch cadw chi’n rhan o gynnydd eich plentyn. Mae adroddiadau rheolaidd, diwrnodau agored ac ymweliadau i gyd yn helpu’r broses. Fel arfer bydd rhywun yn ceisio ateb eich cwestiynau yn gyflym ac yn effeithiol.

Bydd pob ysgol yn hapus i drafod gyda rhieni/cynhalwyr (gofalwyr) lle y bo pryderon neu wahaniaethau o ran barn.

Y prif beth yw datrys y pryderon a gofalu bod y plentyn yn parhau yn yr ysgol.

Pe hoffech chi wneud cŵyn neu drafod pryder sydd gyda chi, cysylltwch â'r Pennaeth yn y lle cyntaf i drefnu cyfarfod.

Efallai mai da o beth fyddai paratoi nodiadau neu feddwl am ba fath o ganlyniad i'r mater hoffech chi'i gael yn y pendraw cyn ichi gwrdd.

Mae'r gwaith o ymchwilio i gŵyn yn cymryd amser, a dyw'r atebion ddim bob amser yn hawdd i'w gweld, ond o leiaf bydd modd ichi benderfynu a ydy'r camau sydd wedi'u cymryd (neu heb eu cymryd) yn rhesymol, ac a oes eisiau cymryd rhagor o gamau i ddatrys y broblem.

Os ydych chi'n anfodlon o hyd

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y broblem wedi ei datrys erbyn hyn. Serch hynny, os ydych chi'n dal yn anfodlon, dylech chi gysylltu â Chadeirydd y Corff Llywodraethu. Bydd yr ysgol yn dweud wrthoch chi sut mae cysylltu â'r person yma, ac mae'n bosibl y gallai e/hi eich helpu i ddatrys y broblem yn anffurfiol, efallai drwy drefnu cyfarfod â phawb sydd ynghlwm â'r sefyllfa. Os ydych chi'n parhau'n anfodlon, yna fe ddylech chi wneud cŵyn ffurfiol i'r Corff Llywodraethu.

Cwyno i'r Corff Llywodraethu

Bydd panel o lywodraethwyr yn ymgynnull i glywed eich achos a bydd gofyn i bob ochr gyflwyno datganiad ysgrifenedig. Byddwch chi hefyd yn derbyn gwahoddiad i unrhyw wrandawiad fydd yn cael ei gynnal er mwyn i chi gael cyflwyno’ch ochr chi o’r ddadl.

Yna bydd copi ysgrifenedig o benderfyniad panel y llywodraethwyr yn cael ei anfon at bawb sydd ynghlwm â’r broses.

Ar ôl i’r Llywodraethwyr ddelio â’ch cwynion, ac os ydych chi’n dal yn anfodlon â’r penderfyniad, mae croeso ichi gysylltu â ni am gyngor ar beth i’w wneud nesaf

Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes

Canolfan Menter y Cymoedd

Parc Hen Lofa'r Navigation,

Aberpennar

CF45 4SN

Ffôn: 01443 744000
Ffacs: 01443 744023