Skip to main content

Ysgol Gynradd Gymuned Abercynon

Cafodd Ysgol Gynradd Cymuned Abercynon ei hadeiladu ar safle hen Ysgol Babanod Abercynon. Y nod oedd disodli cyfleusterau Ysgol Babanod Abercynon, Ysgol Gynradd Carnetown ac Ysgol Gynradd Abertaf, oedd wedi dyddio. 

Yn ogystal â hyn, mae'r safle hefyd yn cynnwys llyfrgell a chyfleuster cyfagos i'r gymuned er mwyn cefnogi addysg i oedolion a gwasanaethau ieuenctid.

 Cafodd campws yr ysgol ei agor yn 2013, ac mae'r adeilad deulawr yn cynnwys dosbarth meithrin, dosbarth derbyn, 5 dosbarth babanod, dosbarth anghenion addysgol arbennig, a 7 dosbarth iau.

abercynonprimary2
Abercynon

Hoffech chi ragor o wybodaeth am y prosiect yma? Anfonwch ebost i Garfan Ysgolion yr 21ain Ganrif.