Agorodd Ysgol Gymuned Aberdâr ei drysau yn 2014 ar ôl i Ysgol Aberdâr y Bechgyn, Ysgol Aberdâr y Merched ac Ysgol Uwchradd Blaen-gwawr uno. Yn ogystal â'r ysgol, mae Canolfan Hamdden Sobell hefyd ar yr un safle.
Mae'r ysgol wedi cael cyllid o £15 miliwn, diolch i Raglen Ysgolion ac Addysg y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Mae campws yr ysgol yn cynnwys adeilad trillawr. Mae dyluniad yr ysgol yn cynnwys atriwm dwbl golau ac agored.
Mae'r ysgol wedi'i dylunio gydag 'ardaloedd ar wahân' ar gyfer dysgu, sy'n annibynnol i'r dosbarthiadau ac sydd â choridorau sydd wedi'u dylunio'n ofalus.
Mae gan yr ysgol Wi-Fi, ac mae'n gwneud y gorau o dechnoleg fodern. Mae ganddi ystafelloedd sydd ag iPads, sy'n galluogi i lechi (tablets) gael eu defnyddio mewn caffis rhyngrwyd.
Mae gan yr ysgol, hefyd, stiwdio recordio, ardal agored gyda thaflunydd enfawr, campfa ac ardal ddawns.
Hoffech chi ragor o wybodaeth am y prosiect yma? Anfonwch ebost i Garfan Ysgolion yr 21ain Ganrif.