Mae'r ysgol wedi cael budd o ddwy ystafell TGCh newydd, sydd wedi'u dylunio i fodloni safonau'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Yn ogystal â hynny, cafodd ystafell Dylunio a Thechnoleg newydd ei hagor yn yr ysgol. Cafodd labordy ei adnewyddu, a chafodd ystafell ddosbarth newydd ei chreu gan ddefnyddio lle sy'n bodoli eisoes yn yr ysgol.
Cafodd ystafelloedd dosbarth yn y prif adeilad eu troi'n ystafelloedd Anghenion Dysgu Ychwanegol fel eu bod nhw'n addas ar gyfer disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn ogystal â hynny, cafodd tai bach yr ysgol eu gwella a'u hail-ddylunio, a chafodd to newydd ei osod ar y gegin.
Mae'r ysgol hefyd yn elwa ar gae chwaraeon 3G pob tywydd newydd, sydd hefyd ar gael i aelodau'r gymuned.
Cafodd y prif gynllun ei gwblhau yn 2018/19, ond cafodd gwaith pellach gan gynnwys gwaith adnewyddu'r pwll nofio ei gwblhau yn ystod 2020.
Lluniau o'r prosiect terfynol - Gorffennaf 2018