Mae'r ysgol bellach yn elwa o fuddsoddiad gwerth £10.2 miliwn sydd wedi gwella'r cyfleusterau addysgol yn sylweddol. Yn rhan y prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif roedd adeilad newydd sbon (yn barod ar gyfer tymor yr hydref 2020) yn ogystal â dau Faes Chwarae Aml-ddefnydd, cyfleuster Dechrau'n Deg i'r blynyddoedd cynnar, maes parcio i'r staff, maes chwaraeon gwair a mannau gwyrdd.
Roedd y contractwr, Morgan Sindall, wedi gwneud cynnydd rhagorol ar ôl i'r cam adeiladu ddechrau ym mis Medi 2019, er gwaethaf heriau tywydd garw y gaeaf diwethaf a phandemig y Coronafeirws yn 2020.
Cafodd yr adeilad ysgol newydd ei adeiladu'n barod ar gyfer croesawu staff a disgyblion ar ôl wythnos hanner tymor yr hydref yn 2020.
Yna, trodd y contractwr ei sylw at gwblhau'r datblygiad ehangach, a cafodd hyn ei gyflawni'n llawn yn ystod mis Ebrill 2021. Roedd y gwaith yma'n cynnwys y dymchwel adeiladau presennol yr ysgol, a gorffen y gwaith yn ardaloedd allanol ar dir yr ysgol.