Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, the Welsh Medium primary school in Cwmdare, has benefitted from a £4.706m investment which has expanded its facilities and introduced an on-site childcare facility to meet local demand.
Yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn flaenorol), mae buddsoddiad gwerth £3.69 miliwn yn yr ysgol wedi ei galluogi i ddarparu cyfleusterau modern ac ychwanegu 48 o leoedd cyfrwng Cymraeg, sy'n golygu bydd lle i 480 disgybl (gan gynnwys lleoedd meithrin).
Cafodd hyn ei ategu gan fuddsoddiad ar wahân o £1.016m, drwy Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i galluogi i sefydlu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd gyda 29 o leoedd ar safle'r ysgol – a gaiff ei weithredu gan Gylch Meithrin Cwmdâr.
Mae’r cynllun cyffredinol, a gyflwynwyd mewn pryd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd sy’n dechrau ym mis Medi 2022, wedi cynnwys:
- Estyniad â gwahanol lefelau yn 'adain' ddwyreiniol yr ysgol – mae hyn wedi helpu i greu pedair ystafell ddosbarth ychwanegol, tai bach, ardal ddysgu anffurfiol ar y llawr gwaelod a chyfleuster gofal plant cwbl hygyrch ar y llawr gwaelod isaf.
- Estyniad i 'adain' ogleddol yr ysgol - cynyddu maint y neuadd bresennol (80 metr sgwâr ychwanegol).
- Estyn y maes parcio presennol gan ddefnyddio darn o dir sy'n eiddo i'r Cyngor i ddarparu 21 o leoedd parcio ychwanegol.
- Cael gwared ar ddwy ystafell ddosbarth dros dro a oedd yn cael eu defnyddio gan yr ysgol (sy'n golygu bydd yr ysgol ar ei hennill o ddwy ystafell ddosbarth o ganlyniad i'r cynllun).
- Man chwarae wyneb caled ychwanegol i gymryd lle cae chwarae glaswellt presennol nad oedd modd ei ddefnyddio ar gyfer rhannau helaeth o'r flwyddyn.
- Llwybr troed pwrpasol newydd i gysylltu'r cyfleuster gofal plant newydd â'r maes parcio.
Lluniau o'r prosiect wedi'i gwblhau – Medi 2022
Hoffech chi ragor o wybodaeth am y prosiect yma? Anfonwch ebost i Garfan Ysgolion yr 21ain Ganrif