Os oes rhaid i ddisgyblion gymryd meddyginiaeth, mae’n hanfodol bod gyda nhw ganiatâd ysgrifenedig a chyfarwyddiadau gan riant/gwarcheidwad a/neu feddyg teulu, sy’n nodi beth yw’r feddyginiaeth, faint y dylid ei chymryd, pryd a pha mor aml.
Dylai rhieni/gwarcheidwaid roi’r moddion i’r aelod perthnasol o staff er mwyn iddo gael ei gadw’n ddiogel.
Fe ddylech chi nodi enw'r plentyn a chyfarwyddiadau am faint y dylai'ch plentyn ei chymryd. Dim ond y plentyn a enwir dylai gael y feddyginiaeth.
Ddylai fod dim disgwyl i staff yr ysgol roi meddyginiaeth.
Lle bydd aelodau o’r staff wedi cytuno i roi meddyginiaeth, dim ond un aelod o staff ddylai fod yn gyfrifol am hyn er mwyn osgoi’r perygl y bydd y disgybl yn cael dwy ddos. Dylid cofnodi’n rheolaidd y meddyginiaethau sy’n cael eu rhoi yn y Llyfr Cofnodi Meddyginiaethau.
Os yw rhieni/gwarcheidwaid yn ystyried bod eu plentyn yn gallu ac yn gyfrifol i wneud, dylai’r plentyn edrych ar ôl ei anadlydd ei hunan. Fel arall, dylid ei gadw’n ddiogel a dylai’r plentyn allu cael mynediad uniongyrchol at yr anadlydd
Cyfadran Addysg a Gwasanaethau i Blant
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ
Ffôn: 01443 744000
Ffacs: 01443 744023