Skip to main content

TEULU A FFRINDIAU

Mae’r cynllun ‘Teulu a Ffrindiau' yn caniatáu bod chi, eich ffrindiau a'ch teulu yn cael gostyngiad o 20% ar bris eich aelodaeth. Gall hyd at 4 o bobl ymuno â'r cynllun.

Bydd gan bob person ei aelodaeth ei hun, sy'n seiliedig ar ei dewis aelodaeth personol neu, os ydyn nhw'n gymwys, aelodaeth consesiwn.  Mae aelodaeth yn cyfuno o dan y cynllun Teulu a Ffrindiau. Mae'r gostyngiad yn gymwys i gostau misol eu haelodaeth wedi’u cyfuno. Rhaid i gyfanswm y gost gael ei dynnu allan o un cyfrif banc.

Gweler y gostyngiadau isod:

  • Dau aelod 10%
  • Tri aelod 15%
  • Pedwar aelod 20%

Er enghraifft:

  • Cwpl sy'n talu aelodaeth fisol cyfnod penodol (ymrwymedig). Bydd gostyngiad o 10% yn berthnasol. Bydd hyn yn cael ei dynnu o gyfanswm cyfunol yr aelodaeth, sef £75. Felly, cyfanswm eu haelodaeth bob mis fydd £67.50
  • Pedwar ffrind sy'n mynd i'r gampfa a dosbarthiadau sydd ag aelodaeth fisol cyfnod penodol. Bydd gostyngiad o 20% yn gymwys i gost yr aelodaeth gyfunol o £150. Felly, bydd taliadau debyd uniongyrchol misol yn costio £120, sef tua £7.50 y person, yr wythnos.