*Nodwch, dydyn ni ddim yn cynnig Pecynnau Parti Penblwydd ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau’r Coronafeirws*
Dewch â'r teulu, eich cyfeillion, a'r bwyd. Byddwn ni'n darparu'r cyfleusterau - ac, wrth gwrs, yr hwyl!
Cewch ddewis o ystod o ddewisiadau ym mhob un o'n naw Canolfan Hamdden er mwyn dod o hyd i'r pecyn pen-blwydd perffaith i chi.
Mae ein pecyn pen-blwydd yn cynnwys:
- Parti Castell Gwynt/Chwarae Meddal (safon uwch)
Dewis o deganau gwynt ac offer chwarae meddal (1 awr 15 munud o chwarae a 45 munud yn ystafell y parti/bwyta)
- Parti Castell Gwynt (safonol)
Un castell gwynt (1 awr 15 munud o chwarae a 45 munud yn ystafell y parti/bwyta)
- Parti Pêl-droed neu Bêl-rwyd
Mae modd defnyddio cwrs 5 bob ochr gyda goliau/rhwydi a pheli (parti 1 awr lle bydd byrddau a chadeiriau ar gael ar gyfer bwyd. Mae modd cadw'r cwrt am gyfnod hwy yn ôl tâl fesul awr o £26.00)
Children's party timestable
| PARTI CASTELL GWYNT/CHWARAE MEDDAL (SAFON UWCH) – 2 AWR
| PARTI CASTELL GWYNT (SAFONOL) – 2 AWR | PARTI PÊL-DROED NEU BÊL-RWYD (1 AWR) LLOGI'R NEUADD YN UNIG |
Canolfan Chwaraeon Abercynon |
-
|
£87.50 |
£26.00 |
Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen |
£128.20
|
- |
£26.00 |
Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref |
- |
£87.50 |
£26.00 |
Canolfan Hamdden Llantrisant |
£128.20 |
- |
£26.00 |
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach |
£128.20 |
£87.50 |
£26.00 |
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda |
£128.20 |
- |
£26.00 |
Canolfan Hamdden Sobell |
- |
£87.50 |
£26.00 |
Canolfan Hamdden Tonyrefail |
£128.20 |
- |
£26.00 |
Partïon Pwll
Pwll Bronwydd
Pwll bach – defnydd o'r pwll bach gydag offer arnofio – £78.90
Pwll mawr - Defnydd o'r prif bwll, heb y cyhoedd, gyda llong gwynt - plant 8+ oed - £116.55
Y ddau bwll - Defnydd o'r ddau bwll, heb y cyhoedd, gyda llong a theganau gwynt - £172.25
Canolfan Hamdden Llantrisant
Pwll bach - Defnydd o'r pwll bach, heb y cyhoedd, gyda fflotiau - £116.55
Prif bwll - Defnydd o'r prif bwll, heb y cyhoedd, gyda theganau gwynt - £116.55
Canolfan Hamdden Sobell
Pwll bach - Defnydd o'r pwll bach, heb y cyhoedd, gyda fflotiau - £58.25
Prif bwll Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
Prif bwll - Defnydd o ran o'r pwll, heb y cyhoedd, gyda fflotiau - £58.25
Nodwch: : bydd angen dilyn y gymhareb oedolion:plant ar gyfer ein partïon pwll. Bydd pob parti yn cynnwys defnydd o fyrddau parti wrth ochr y pwll neu ystafell ar wahân.
Mae prisiau yn amrywio gan ddibynnu ar y pecyn parti rydych chi'n ei ddewis. Prisiau sefydlog ydyn nhw ac felly fyddwch chi ddim yn talu mwy na'r pris rydyn ni'n ei roi i chi. Fyddwn ni ddim yn codi taliadau ychwanegol heb rybudd.