P'un a ydych chi eisiau parti chwarae meddal dan do i blant o bob oed, parti pwll gyda theganau gwynt neu barti pêl-droed, mae gan Hamdden am Oes y parti perffaith i chi.
Mae ein canolfannau'n cynnig ystod o bartïon pen-blwydd lle mae modd dewis opsiynau chwarae gwahanol, yn ogystal â man digon mawr i fwynhau bwyd parti a chyfleusterau parcio am ddim i chi a'ch gwesteion.
Rydyn ni'n gwneud y gwaith caled ar eich rhan – y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw dod â'r bwyd (cofiwch y gacen a'r canhwyllau).
Mae'r dewis yn wahanol ym mhob canolfan ond mae partïon fel arfer yn cynnwys amser i chwarae, nofio neu orffen gêm chwaraeon, yna amser i gael bwyd, cacen a gemau parti.
Gweler isod am yr hyn sydd ar gael a manylion cyswllt y canolfannau os byddwch chi eisiau cael rhagor o wybodaeth neu drefnu parti.
Children's party timestable
Canolfan | FFON | PARTI
|
Canolfan Chwaraeon Abercynon |
01443 570022
|
Castell neidio bach gyda phartïon chwarae meddal neu bartïon pêl-droed
|
Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen |
01443 842873
|
Partïon pêl-droed a phartïon chwarae meddal
|
Pwll Nofio Bronwydd |
01443 682817
|
Cwrs rhwystrau ar y dŵr ar gyfer partïon mwy a matiau chwarae a theganau pwll ar gyfer partïon llai i blant iau
|
Pwl Nofio Glynrhedynog |
01443 755412
|
Cwrs rhwystrau ar y dŵr gyda theganau gwynt, ystod eang o fatiau pwll, fflotiau a theganau. Mwynhewch rywbeth i'w fwyta yn y man gwylio.
|
Canolfan Hamdden Llantrisant |
01443 224616
|
Castell neidio mawr, llithren a chanolfan weithgareddau teganau gwynt gyda phwll peli bach a chyfleusterau chwarae meddal. Partïon pêl-droed. Partion pwll gyda chwrs rhwystrau ar y dwr a theganau gwynt yn y pwll bach.
|
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach |
01443 570012
|
Cwrs rhwystrau teganau gwynt, castell neidio mawr a chastell neidio bach. Mae modd dewis a dethol y rhain.
|
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda |
01443 570011 |
Tri chastell neidio – un mawr a dau fach – cewch chi ddewis a dethol y rhain. Partïon pêl-droed. Partïon tennis byr. |
Canolfan Hamdden Sobell |
01685 870111
|
Castell neidio, castell neidio â thema disgo a chastell neidio â chwrs rhwystrau.
Partïon pêl-droed
Partïon Pwll
|
Canolfan Hamdden Tonyrefail |
01443 670578 |
Cestyll neidio mawr a bach a chyfleusterau chwarae meddal. |