Skip to main content

Gwersi Achub Bywyd

Gwersi Achub Bywyd i Ddechreuwyr

Dyma'r cam cyntaf tuag at ddod yn Achubwr Bywyd cymwys ac mae'n rhan o'n rhaglen Gwersi Nofio i Blant.

Mae'r rhaglen yn dysgu sgiliau i'ch plentyn a fydd eu hangen arnyn nhw i fod yn hyderus yn y pwll neu yn y môr. Gyda deunyddiau lliwgar a gweithgareddau amrywiol, hwyliog, bydd y Gwersi Achub Bywyd i Ddechreuwyr yn dysgu plant sut i nofio a mwynhau'r dŵr mewn modd diogel, boed mewn dŵr bas neu ddwfn.

Mae'r lefelau efydd, arian ac aur wedi'u cynnwys yn yr aelodaeth Hamdden am Oes i blant neu mae modd talu amdanyn nhw drwy ddebyd uniongyrchol.

Rhagor o wybodaeth - Cwrs Achub Bywyd i Ddechreuwyr

Goroesi ac Achub

Dyma'r cam nesaf tuag at ddod yn Achubwr Bywyd cymwys. Mae Goroesi ac Achub yn wobr 'Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd' newydd sy'n disodli'r hen Fedaliwn Efydd.

Mae'r Rhaglen Goroesi ac Achub ar gyfer pobl ifainc ac oedolion (12+ oed). Mae'r gwobrau'n heriol ond yn hwyliog i'w cwblhau. Mae lefelau gwahanol - Efydd, Arian ac Aur - er mwyn i chi ddatblygu'ch sgiliau achub bywyd wrth i chi weithio drwy'r gwobrau.

Mae'r cwrs ar gael drwy'r cerdyn aelodaeth Hamdden am Oes i Blant. I gael gwybodaeth am gadw lle, cysylltwch â'ch canolfan leol.

Rhahor o wybodaeth: gwersinofio@rctcbc.gov.uk

 


Rhagor o wybodaeth - Cwrs Goroesi ac Achub

Cymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol (NPLQ)

Dyma'r cam olaf cyn dod yn Achubwr Bywyd cymwys a bydd cwblhau'r cwrs yma'n eich galluogi chi i weithio fel Achubwr Bywyd ym mhob rhan o'r wlad.

O daflu lein i adfywio cardio-pwlmonaidd, byddwch chi'n dysgu sgiliau gwych yn ystod eich cwrs NPLQ y bydd modd i chi eu defnyddio drwy gydol eich bywyd.

I gael gwybodaeth am gadw lle, cysylltwch â'ch canolfan leol.