Skip to main content
 

Tystebau

 

Huw Wilcox
Swyddog Cyflogadwyedd Chwaraeon
Prifysgol De Cymru

"Mae'n bleser cydweithio gyda Charfan Datblygu Chwaraeon Awdurdod Lleol proffesiynnol a blaengar, gyda chysylltiadau cryf yn y gymuned leol. Mae'r gwerthoedd a rennir o ran datblygu pobl yn gynhwysion allweddol yn y bartneriaeth lwyddiannus yma. Mae gyda myfyrwyr chwaraeon Prifysgol De Cymru'r cyfle i dyfu yn hyfforddwyr/swyddogion datblygiad ac unigolion gyda rhaglen arwain a mentora Chwaraeon Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n gyffrous i barhau i weithio gyda'n gilydd a chryfhau ein perthynas o ran Datblygu Chwaraeon."."

USW

Anwen Paull
Cydlynydd Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 

"Mae partneriaeth newydd gyda Chwaraeon Rhondda Cynon Taf wedi bod yn llwyddiannus iawn. Darparodd Chwaraeon Rhondda Cynon Taf hyfforddiant penodol oedd wedi'i deilwra i roi cyfle i bobl oedd â diddordeb brwd mewn chwaraeon symud ymlaen i gyflogaeth ym Maes Hyfforddi.

Bydden ni'n croesawu'r cyfle i weithio gyda Jodie a Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol agos.”

RCT

Jade Baxter
Dietegydd Iechyd Cyhoeddus
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

“Gwnaethon ni gydweithio gyda Chwaraeon Rhondda Cynon Taf er mwyn cael cymorth i wella ein sesiynau maeth 'Bwyd a Hwyl' er mwyn eu gwneud nhw'n fwy actif a rhyngweithiol i blant. Roedd y garfan yn gadarnhaol iawn ac wedi croesawu'r syniad i gydweithio. Gwnaethon nhw gyflwyno syniadau gwych ar gyfer ein Canllaw Bwyta'n dda a'n Sesiynau 'Go and Whoa' gan greu cardiau gweithgareddau a chynnal gemau yn eich diwrnod hwyluso gyda'n staff 'Bwyd a Hwyl'. Gwnes i fwynhau gweithio gyda phawb, aethon nhw y tu hwnt i'r galw ar gyfer 'Bwyd a Hwyl' eleni! Diolch yn fawr i chi am eich gwaith caled” 

CTM UHB

Robert Wedlake
Prif Hyfforddwr a Chyd-gyfarwyddwr
Tennis Squad Ltd 

“Mae gyda Tennis Squad berthynas weithiol hirsefydlog gyda Chwaraeon Rhondda Cynon Taf lle rydyn ni wedi cynnal gweithgareddau tenis ar gyfer y gymuned. Yn ystod 2023 roedd ein Gwyliau Ysgolion Cynradd yng Nghlwb Tenis Lawnt Llantrisant a Chlwb Tenis Lawnt Cwm Rhondda yn llwyddiant ysgubol lle cafodd dros 400 o blant lleol y cyfle i roi cynnig ar denis gan dderbyn cynigion tenis dilynol am ddim ac am brisiau isel. Roedd Sam a'r garfan yn Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn allweddol yng ngwaith cynllunio a darparu'r sesiynau. Roedd eu cysylltiadau gydag ysgolion a hyfforddwyr chwaraeon dan hyfforddiant wedi helpu i sicrhau fod pob cyfranogwr wedi derbyn profiad anhygoel o'n camp ni.”

TENNIS SQUAD

Huw Griffiths
Y Pennaeth
Ysgol Gynradd Caegarw

“Roedd eu carfan ymroddedig wedi arddangos ymrwymiad eithriadol drwy ddarparu hyfforddiant 'Symud sy'n Bwysig' i bob aelod o staff Ysgol Gynradd Caegarw.  O ganlyniad, mae rhaglen 'Symud sy'n Bwysig' wedi'i hymgorffori'n ddi-dor i'n Cyfnod Sylfaen, gan sicrhau fod pob disgybl yn derbyn ymarfer corff rheolaidd o ansawdd uchel. Yn ychwanegol, roedd cymorth amhrisiadwy Chwaraeon RhCT wedi galluogi i'n hysgol sicrhau cyllid grant er mwyn prynu pecyn cwrlo dan do, gan gyfoethogi ein darpariaeth ar ôl ysgol. Roedd y garfan wedi darparu sesiynau hyfforddi beiciau cydbwyso hanfodol, gan alluogi ein staff i reoli clwb beiciau cydbwyso ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion oed meithrin a dosbarth derbyn. Yn ogystal â hyn, mae eu cymorth gydag ein cais am gyllid i brynu'r beiciau cydbwyso ar gyfer yr ysgol wedi galluogi i ni ymestyn y cynnig yma i'n disgyblion dros y penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r sesiynau Hyfforddiant Cyfrwng Dwysedd Uchel (HIIT) ar-lein i'r ysgol gyfan gafodd eu darparu ganddyn nhw wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan wella achlysuron allweddol megis Cwpan Pêl-droed y Byd. Mae Chwaraeon RhCT wedi bod yn bartner amhrisiadwy, gan gyfoethogi darpariaeth addysg gorfforol ein hysgol yn anfesuradwy.”

CAEGARW PRIMARY

Kelly Reddy
Hyfforddwr
Clwb Pêl-droed Menywod a Merched Aberaman

“Fydden ni ddim wedi gallu cynyddu nifer yr aelodau newydd yn y clwb os nad oedden ni wedi cysylltu â Chwaraeon RhCT. Roedd eu cynllun tocyn aur a'u gallu i gysylltu ag ysgolion lleol yn allweddol yn ein llwyddiant. Fydden ni ddim wedi gallu cynnal twrnamaint ysgol neu wersyll haf hebddyn nhw. Hoffen ni ddiolch iddyn nhw am eu cymorth a'r ymdrech maen nhw wedi'i roi i'n clwb.”

Aberaman LGFC

Natalie Godwin
Cadeirydd/Prif Hyfforddwr
Clwb Pêl-rwyd Pentre'r Eglwys

Bydden i'n argymell i unrhyw un sydd eisiau dechrau sesiwn neu glwb newydd gysylltu â Chwaraeon RhCT. Gwnaethon nhw fy helpu â gwaith hyrwyddo torfol fy nghlwb newydd gan gynorthwyo â phob cam o'r broses gyllido gyda Chwaraeon Cymru. Daeth gwaith sefydlu'r clwb yn brofiad llai brawychus drwy gysylltu â nhw.”

cvnc new

Gwaith a Sgiliau RhCT

"Dros y 12 mis diwethaf, mae Chwaraeon RhCT a charfan Gwaith a Sgiliau RhCT wedi datblygu partneriaeth hynod gynhyrchiol trwy gydlynu a chyflwyno 12 carfan o'r prosiect Camu Ymlaen. Drwy hyn, rydyn ni wedi Ilwyddo i ymgysylltu â grwpiau o unigolion o fewn ein cymunedau yr oedden nhw'n anodd i ni eu cyrraedd o'r blaen. Mae'r cyfle i weithio gyda'n cynulleidfa darged wedi ein galluogi ni i gyflawni deilliannau o fewn ein prosiect ac wedi cyfrannu hefyd at adran Pobl a Chymunedau o Gynllun Corfforaethol RhCT. "

RCT WORK AND SKILLS

Blynddoedd Cynnar Cymru

"Rydyn ni wedi gwerthfawrogi'r cyfle i weithio mewn partneriaeth a Charfan Chwaraeon RhCT i gyflwyno'r rhaglen Babi Actif yn y Cartref. Rydyn ni wedi Ilwyddo i gyrraedd teuluoedd mewn cyfnod hollbwysig, gan rymuso rhieni a chynhalwyr gyda'r wybodaeth, yr hyder a'r offer ymarferol i gefnogi datblygiad eu babi yn ystod misoedd cyntaf ei fywyd. Mae cydweithio wedi atgyfnerthu ansawdd a chyrhaeddiad y gwaith, gan sicrhau ei fod yn berthnasol, yn hygyrch, ac wedi'i wreiddio mewn cymunedau lleol."

EARLY YEARS WALES

Carfan Datblygu Chwarae RhCT

"Mae ein partneriaeth a Chwaraeon RhCT yn parhau i fod o fudd enfawr i'r Gwasanaethau Chwarae. Mae'r garfan yn dod ag egni ac arbenigedd, ac yn rhannu ein hymrwymiad i annog plant i wneud ymarfer corff trwy gyfleoedd hwyliog a chynhwysol. Mae gweithio gyda'n gilydd yn cryfhau ein hachlysuron chwarae, gan gynnig amrywiaeth ehangach o weithgareddau deniadol sy'n helpu plant i feithrin hyder, rhoi cynnig ar brofiadau newydd a mwynhau gwneud ymarfer corff. Mae cael Chwaraeon RhCT wrth ein hochr yn gwella ansawdd pob achlysur, ac rydyn ni'n falch o gydweithio a charfan sy'n gwerthfawrogi lles a chyfleoedd chwarae plant cymaint ag yr ydyn ni." 

RCT
 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas