Skip to main content
 

Wythnos Nofio i Fabanod

Wythnos Nofio i Fabanod 2024 (14-20 Hydref)

Helpwch eich babi/plentyn i fagu hyder yn y dŵr! 

Ymunwch â ni am sesiwn mynediad agored AM DDIM yn y pwll ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid sydd â phlant rhwng 3 mis a 4 oed. 

Mae sesiynau mynediad agored AM DDIM i annog rhieni/gwarcheidwaid i fynd â’u babi/plentyn bach i nofio! Bydd llawer o deganau ar gael i gefnogi rhieni/gwarcheidwaid i feithrin perthynas gadarnhaol rhwng eu plentyn a’r dŵr.

Bydd cewynnau nofio am ddim hefyd ar gael o'r dderbynfa.

Dydd Llun - LLAWN
14 Hydref
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
9:30 – 10:30am

Dydd Mawrth - LLAWN
15 Hydref
Canolfan Hamdden Llantrisant
11:00am - 12:00pm

Dydd Mercher - LLAWN
16 Hydref
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
9:30am – 10:30am

Dydd Iau - LLAWN
17 Hydref
Canolfan Hamdden Sobell
11:00am - 12:00pm

Dydd Gwener - LLAWN
18 Hydref
Canolfan Chwaraeon Abercynon
9:00am - 10:00am

ARCHEBWCH YMA! (Mae'n ddrwg gennym, mae pob sesiwn bellach yn llawn.)

 

Awrgrymiadau

Beth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer sesiwn nofio gyntaf eich babi? Cliciwch i wylio ein fideo.

  • Tywel ar gyfer y rhiant/gwarcheidwad
  • Gwisg nofio ar gyfer y rhiant/gwarcheidwad
    • Gwisgwch ddillad nofio o dan eich dillad (cofiwch ddod â'ch dillad isaf!)
  • Weips gwlyb
  • Hufen ar gyfer croen eich babi (os oes angen)
  • Cewyn nofio tafladwy
    • Ewch â chewyn sbâr gyda chi
  • Cewyn nofio sy'n dal dŵr
    • Rhaid ei wisgo â chewyn nofio tafladwy er mwyn atal halogi'r dŵr
  • Crys-t wedi'i ddylunio ar gyfer y dŵr neu wisg nofio i fabanod
  • Hoff degan o'r bath
    • Byddan nhw'n teimlo'n fwy cyfforddus yn y dŵr os bydd rhywbeth cyfarwydd yno
  • Tywel yn null poncho er mwyn i'r babi gadw'n gynnes unwaith y bydd yn sych
    • Rhowch dywel o amgylch eich babi ar y ffordd i mewn ac allan o'r pwll er mwyn ei gadw'n gynnes
  • Tywel arferol er mwyn sychu'ch babi

 

I gael awgrymiadau da eraill, cliciwch yma i ddarllen erthygl wych gan sefydliad Nofio Cymru.

 

Gwersi nofio i fabanod a phlant bach

Ewch i dudalen nofio Gwasanaethau Hamdden Rhondda Cynon Taf i gael y manylion llawn - cliciwch yma.

 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas