Menter newydd gan Chwaraeon RhCT a Heini Merthyr Tudful.
Mae 'Holwch Ni' yn fenter ar gyfer eich holl gwestiynau yn ymwneud â darpariaeth ymarfer corff ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful!
Ydych chi erioed wedi bod eisiau rhoi cynnig ar ddawnsio, bowlio neu fath arall o ymarfer corff, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Holwch Ni!
Ydych chi erioed wedi bod eisiau i'ch plentyn ddysgu nofio ond ddim yn gwybod ble sy'n cynnig gwersi nofio i blant ag anableddau? Holwch Ni!
Oes awydd gyda chi i chwarae chwaraeon tîm ond dydych chi ddim yn gwybod ble sy'n cynnig tîm i bobl o’ch oedran chi? Holwch Ni!
Mae 'Holwch Ni' yn fenter i bobl o bob oed sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Bydd ein carfan brofiadol yn manteisio ar adnoddau helaeth i wneud yr holl waith ymchwil er mwyn rhoi ateb pwrpasol i chi, a fydd yn ateb eich cwestiwn ac yn eich helpu i gychwyn ar eich taith. Fyddwch chi ddim yn derbyn ymatebion cyffredinol gan Ddealltwriaeth Artiffisial yma, bydd person go iawn yn eich helpu dros y ffôn neu e-bost, yn dibynnu ar sut rydych chi am i ni gysylltu â chi.
Does dim ots pa mor fawr neu fach yw'r cwestiwn, os oes angen help arnoch chi i fod yn heini, HOLWCH NI!
Cliciwch yma i gyflwyno ymholiad ar-lein, neu ffoniwch XXX i siarad ag aelod o'r garfan!