Skip to main content
 

Cyrsiau a Gweithdai

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Cymorth Cyntaf, a Diogelu a Gwarchod Plant, mewn canolfannau chwaraeon amrywiol trwy gydol y flwyddyn. Gall clybiau sydd wedi'u hachredu gan Sport RCT anfon hyd at ddau wirfoddolwr neu hyfforddwr ar bob cwrs yn rhad ac am ddim, yn amodol ar gymeradwyaeth gan ein tîm Chwaraeon Cymunedol.

Mae manylion am gyrsiau a gweithdai sydd ar y gweill i'w gweld isod. Sylwch mai dim ond o fewn 4 wythnos i ddyddiad y cwrs y gellir archebu lleoedd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cwrs sy'n benodol i chwaraeon, siaradwch â'ch swyddog chwaraeon cymunedol i gael rhagor o wybodaeth.

Cyrsiau sydd ar ddod

  • Cymorth Cyntaf Chwaraeon - 10/12/26 18:00-21:00 Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  • Achredu Clwb - 13/01/27 9:00-19:00 Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  • Achredu Clwb - 18/01/27 9:00-19:00 Canolfan Chwaraeon Abercynon
  • Achredu Clwb - 20/01/27 9:00-19:00 Canolfan Hamdden Y Ddraenen Wen
  • Diogelu ac Amddiffyn Plant - 10/02/27 18:00-21:00 Canolfan Chwaraeon Abercynon
  • Cymorth Cyntaf Chwaraeon - 23/02/27 18:00-21:00 Canolfan Hamdden Y Ddraenen Wen

 

Ein Cyrsiau

Os hoffech chi gadw lle mewn gweithdy neu ar gwrs, defnyddiwch y ddolen yma i lenwi'r ffurflen ar-lein: CADW LLE

 

Ydych chi wedi mynychu cwrs yn ddiweddar? Helpwch ni i wella drwy lenwi ein ffurflen adborth

Cyrsiau hyfforddi

 

Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol

Mae'r gwefannau canlynol hefyd yn rhestru cyrsiau hyfforddi chwaraeon penodol wedi'u trefnu gan Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol:

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas