Skip to main content
 

Ysgolion Hwyl Heini

 

Gweithio gyda'n gilydd i greu Ysgolion Iachach a Mwy Heini.

'Hwyl Heini. Plant Heini. Ysgolion Heini.

 

Mae Chwaraeon RhCT yn gyffrous i lansio'n rhaglen Hwyl Heini – dyma raglen bartneriaeth newydd sydd wedi'i chynllunio i sefydlu perthnasoedd cryfach rhwng Chwaraeon RhCT a'n hysgolion. Bydd y rhaglen yn darparu cymorth wedi'i deilwra sy'n helpu eich ysgolion i gyflawni blaenoriaethau academaidd ac archwilio ffyrdd newydd o ymgorffori Gweithgarwch Corfforol yn rhan o'ch amserlen.

Sut allwn ni ddod yn Ysgol Hwyl Heini? 

  • Cam 1 – Cwblhau ffurflen gofrestru fer ar-lein
  • Cam 2 – Cwrdd â Charfan Chwaraeon RhCT
  • Cam 3 – Creu eich Cynllun Gweithredu Hwyl Heini
  • Cam 4 – Dechrau eich Taith Hwyl Heini

 

Nwyddau / Prosiectau y mae modd i Ysgolion Hwyl Heini gael mynediad atyn nhw

  • Cronfa Ysgolion
  • Llysgenhadon Ifainc
  • Dragons Den
  • Sesiynau nofio am ddim i ysgolion
  • Cymorth mewn perthynas â Chlybiau Allgyrsiol
  • Gwyliau / Cynghreiriau
  • Hyfforddiant i athrawon
  • Sesiynau Blasu
  • Hyfforddiant Symud sy'n Bwysig
  • Cymorth i Rieni
  • Beiciau Cydbwysedd
  • Cyfleoedd hyfforddi i blant
  • Ymyrraeth ar gyfer grŵp targed

 

Tair Lefel o gydnabyddiaeth

Bydd ysgolion yn derbyn nwyddau i ddathlu'r hyn y maen nhw wedi'i gyflawni. Hysbysfwrdd Hwyl Heini gyda thystysgrif, bathodynnau a hysbysebu cyfleoedd. 

  • Efydd – Ysgol sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Chwaraeon RhCT.
  • Arian – Ysgol sy'n mynd ati'n rhagweithiol i gynnwys gweithgarwch corfforol ym mhob rhan o'r ysgol.
  • Aur – Ysgol sy'n hyrwyddo Gweithgarwch Corfforol ac yn ysbrydoli eraill. 

 

Cliciwch ar y ddolen i gofrestru nawr: https://forms.gle/xRwVfJAqMwbPxCi2A

 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas