Her Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol 2025: Enillwch Wobrau ar gyfer eich Ysgol chi!
Mae Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol yn dychwelyd yn 2025, gan nodi 30 mlynedd o’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid!
I ddathlu hyn, rydyn ni’n cynnal heriau tebyg i’n Her y Daith i Baris yn 2024, lle rhoddwyd gwobrau gwerth dros £2000 i ysgolion!
Yn cychwyn o 16 Mehefin (Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol) bydd ysgolion sydd wedi cofrestru yn derbyn her newydd bob dydd hyd at 20 Mehefin. Bydd yr heriau yma ar gael i bob ysgol.
Bydd rhaid i ysgolion gyflwyno'u sgoriau trwy Instagram, X (Twitter neu drwy e-bostio YsgolionChwaraeonRhCT@rctcbc.gov.uk) trwy dagio @sportrct cyn 4pm ar ddiwrnod yr her.
Bydd enillydd ar gyfer pob achlysur, yn ogystal â gwobr Efydd, Arian ac Aur yn cael eu gwobrwyo ar ddiwedd yr wythnos. Bydd ysgolion sy'n ennill yn derbyn taleb cit i gefnogi'ch Mabolgampau!
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cofrestru cyn 13 Mehefin i gadw'ch lle!
Cofrestrwch eich Ysgol ar gyfer Her Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol 2025 Chwaraeon RhCT YMA!