Skip to main content
 

Her Felindre 2025

Mae'n adeg yna'r flwyddyn eto, gofynnwch i'ch disgyblion chwilio am eu crysau coch i gefnogi Ymddiriedolaeth Canser Felindre!

Ar y cyd â'n sesiwn y Chwe Gwlad ar-lein sy'n digwydd ar 31 Ionawr (1.30-2.15pm) rydyn ni hefyd yn cynnal heriau dyddiol er mwyn i’ch ysgolion ennill gwobrau! 

Yn cychwyn o 27 Ionawr bydd ysgolion sydd wedi cofrestru yn derbyn her newydd bob dydd hyd at 31 Ionawr.  

Bydd raid i ysgolion gyflwyno'u sgoriau trwy X (Twitter) neu drwy e-bost i  YsgolionChwaraeonRhCT@rctcbc.gov.uk trwy dagio @SportRCT cyn 4.00pm ar ddiwrnod yr her. 

Cofrestrwch eich ysgol ar gyfer Her Felindre Chwaraeon RhCT YMA

Cofrestrwch eich ysgol ar gyfer y Sesiwn Ar-lein Gwisgo Coch YMA!

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas